MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Colwyn Bay,
- Cytundeb: Cyfnod penodol
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: £25,989 - £26,403 y flwyddyn (G03)
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 13 Tachwedd, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: £25,989 - £26,403 y flwyddyn (G03)
Lleoliad gwaith: Bae Colwyn/Amrywiol/HybridMae Gwasanaeth Gwella Addysg Conwy yn chwilio am Gydlynydd Dysgu Proffesiynol i ymuno â'r tîm ac i ddarparu cefnogaeth weithredol i'r gwasanaeth. Mae hon yn rôl hanfodol i gefnogi gwaith y gwasanaeth a'r ymarferwyr yn ein hysgolion a lleoliadau nas cynhelir gan awdurdodau lleol, er mwyn sicrhau'r ansawdd addysg orau i bob plentyn a pherson ifanc yng Nghonwy.
Bydd y rôl hon yn gwella'r Gwasanaeth Gwella Addysg yn ystod cyfnod cyffrous o drawsnewid a datblygiad drwy gefnogi'r cynllunio, y ddarpariaeth a'r gwerthuso o gynnig dysgu proffesiynol i ysgolion.
I fod yn llwyddiannus yn y rôl hon, byddwch yn meddu ar y sgiliau a'r arbenigedd i fod yn gyfrifol am gyflwyno'r cynnig dysgu proffesiynol, gweithio'n effeithiol gyda ystod eang o randdeiliaid a darparwyr allanol, ac adrodd ar effaith y rhaglen a'r cyllid perthnasol dan gyfarwyddyd uwch swyddogion.
Byddwch yn cael eich cefnogi'n dda gan dîm deinamig a blaengar a fydd yn darparu cyfeiriad strategol. Byddwch yn gweithio gyda ystod eang o bartneriaid a rhanddeiliaid ac fe fydd gofyn i chi baratoi a chyflwyno gwybodaeth fel rhan o'ch rôl. Mae manylion pellach am ddyletswyddau a chyfrifoldebau penodol y swydd ar gael yn y ddogfennaeth ychwanegol.
Oherwydd natur y gwaith, mae'r swydd yn amodol ar wiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (GDG).
Mae'r rôl hon yn cynnig opsiynau gweithio hyblyg ar gyfer cydbwysedd bywyd a gwaith. Gall hyn gynnwys addasu eich diwrnod gwaith a gweithio hybrid, hy cydbwysedd rhwng gweithio yn y swyddfa a gweithio gartref.
Manylion y rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol: Clare Scanlon, Rheolwr Gwasanaeth Gwella Addysg ( clare.scanlon@conwy.gov.uk / 01492 575007)
Gofynion y Gymraeg: Mae'r gallu i gyfarthrebu yn y Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Rydym ni wedi ymrwymo i'r Gymraeg ac yn falch iawn o'n diwylliant Cymreig. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a'r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na'r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na'i gilydd. Rydym yn frwdfrydig dros eich cefnogi a'ch annog i ddefnyddio'ch Cymraeg, beth bynnag eich lefel; ac mae gennym ni ddosbarthiadau am ddim ar gyfer pob lefel, wyneb yn wyneb ac ar-lein, i'ch cefnogi chi ymhellach.
Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu. Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu dilysu.
Cliciwch yma i ddysgu am y manteision o ymuno â Thîm Conwy.
Dysgwch fwy am ein proses recriwtio drwy fynd i'n Tudalen Proses Recriwtio.
Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu gweithlu amrywiol a thimoedd cynhwysol sy'n croesawu ystod eang o leisiau, profiadau, safbwyntiau a chefndiroedd. Mae creu gweithle sy'n groesawgar a lle mae pawb yn teimlo eu bod yn perthyn yn sicrhau y gallwn ddarparu gwasanaethau rhagorol.
Croesawn ac anogwn ymgeiswyr o bob cefndir a phrofiadau.
Rydym yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd. Os oes gennych anabledd wedi'i ddatgan yn eich cais, gallwn sicrhau cyfweliad os ydych yn profi eich bod yn bodloni meini prawf hanfodol y swydd yn eich cais (gofynion a nodir gyda 'H' ar y Manylion am yr Unigolyn). Angen rhywfaint o gymorth gyda'ch cais? Mae gennym awgrymiadau, canllawiau a gwasanaethau cymorth i'ch helpu chi drwyddo .
Rydym yn fodlon darparu addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio (ac mewn cyflogaeth) lle bynnag bosibl. Anogwn i chi wneud cais am addasiadau. Er mwyn gwneud hyn, cysylltwch â'r rheolwr a enwir uchod er mwyn trafod eich anghenion a chymorth posibl. Mae dewisiadau i wneud cais trwy ffurfiau gwahanol, cysylltwch â'r Tîm AD ar 01492 576129 er mwyn trafod sut y gallwn eich cefnogi chi. Ni fydd y ceisiadau hyn yn eich rhoi dan unrhyw anfantais.
This form is also available in English.