MANYLION
  • Lleoliad: Tonypandy, Rhondda Cynon Taf, CF40 1NY
  • Testun: Athro
  • Oriau: Amser llawn
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Salary Range: £27,491 - £42,333
  • Iaith: Saesneg
  • Dyddiad Cau: 03 Mehefin , 2022 12:00 y.p

This job application date has now expired.

ATHRO DOSBARTH CYNNAL DYSGU

ATHRO DOSBARTH CYNNAL DYSGU

Rhondda Cynon Taf
GWASANAETHAU ADDYSG A CHYNHWYSIANT RHCT

ATHRO DOSBARTH CYNNAL DYSGU
(ANAWSTERAU CYMDEITHASOL, EMOSIYNOL AC YMDDYGIADOL) - WEDI'I HARIANNU'N GANOLOG YN YSGOL NANTGWYN

Graddfa Gyflog: Graddfa Cyflog Athrawon ynghyd â Lwfans AAA (£2,310)

Mae Gwasanaeth Mynediad a Chynhwysiant Rhondda Cynon Taf eisiau penodi athro/athrawes â chymwysterau a phrofiad priodol i weithio mewn Dosbarth Cynnal Dysgu i ddisgyblion ag Anawsterau Cymdeithasol, Emosiynol ac Ymddygiadol yn Ysgol Nant Gwyn o 1 Medi 2022

Bydd y dosbarth yn rhoi cymorth i 12 o ddisgyblion 11-16 oed.

Mae’r ddarpariaeth yma'n rhoi cymorth i ddisgyblion ag ystod o Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY). Bydd y dosbarth yn cael ei staffio gan athro a 3 Chynorthwy-ydd Cynnal Dysgu sy'n cynorthwyo â gweithgareddau dysgu a chynhwysiant y disgyblion yn y brif ffrwd.

Yn ddelfrydol, bydd gyda'r ymgeisydd llwyddiannus brofiad o weithio gyda disgyblion ag ADY, gan gynnwys Anawsterau Cymdeithasol, Emosiynol ac Ymddygiadol. Bydd wedi ymgymryd â hyfforddiant proffesiynol arbenigol perthnasol yn unol â gofynion yr Awdurdod Lleol.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Michael Condon yn Nhŷ Trevithick, Abercynon, Aberpennar, CF45 4UQ neu ffonio 01443 744 333.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw canol dydd (12pm) ar 3 Mehefin 2022.

Mae modd cael ffurflenni cais a manylion pellach, gan gynnwys disgrifiad swydd a'r fanyleb person ar gyfer y rôl oddi ar wefan eteach neu drwy'r wefan Recriwtio Ysgolion yn https://rhondda-cynon-taf.tal.net/vx/lang-cy/mobile-0/appcentre-3/brand-4/xf-c76d524b2100/candidate. Nodwch - i gyflwyno cais am y swydd yma, mae angen i chi lenwi'r ffurflen gais ar-lein sydd ar wefan Cyngor RhCT. O beidio â llenwi'r cais ar-lein byddwn ni'n cyfrif hynny fel nad ydych chi wedi gwneud cais am y swydd.

MAE DIOGELU PLANT AC OEDOLION AGORED I NIWED YN GYFRIFOLDEB CRAIDD YR YSGOL A'R CYNGOR. YN OGYSTAL Â'R CYFRIFOLDEB YMA MEWN PERTHYNAS Â DIOGELU, BYDD Y GWASANAETH DATGELU A GWAHARDD HEFYD YN YMCHWILIO'N FANWL I GEFNDIR YR YMGEISYDD LLWYDDIANNUS.

Mae'r Cyngor a'r Ysgol yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaethau anneuaidd, crefydd neu gred, neu feichiogrwydd a mamolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTQ+.

Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.

Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os na fyddwch chi wedi clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.