MANYLION
  • Lleoliad: Pontyclun, Rhondda Cynon Taf, CF72 9RP
  • Testun: Athro
  • Oriau: Amser llawn
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Salary Range: £27,491 - £42,333
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 03 Mehefin , 2022 12:00 y.p

This job application date has now expired.

ATHRO/ATHRAWES CA2 - ADRAN GYMRAEG - YSGOL GYNRADD DOLAU

ATHRO/ATHRAWES CA2 - ADRAN GYMRAEG - YSGOL GYNRADD DOLAU

YSGOL GYNRADD DOLAU
YSGOL GYNRADD DOLAU
HEOL PENYBONT, LLANHARAN, PONTYCLUN, RCT, CF72 9RP

ATHRO/ATHRAWES CA2 - ADRAN GYMRAEG

Yn angen: mis Medi 2022

Rhif ar y Gofrestr: 519

Mae Ysgol Gynradd Dolau yn ysgol ddwyieithog ragorol sydd wedi’i lleoli ym mhentref Llanharan. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymuno â thîm hapus a brwdfrydig iawn sy’n gweithio yn Adran Gymraeg yr ysgol. Mae 519 o ddisgyblion ar y gofrestr ar hyn o bryd a bwriedir agor estyniad yn 2023/4.

Mae Ysgol Dolau yn falch iawn o’i enw da am ddatblygu arweinwyr o ansawdd uchel.

Yn dilyn dyrchafiad aelod o Uwch Dîm Rheoli'r ysgol i swydd ddirprwy bennaeth, rydym am benodi athro uchelgeisiol sy’n anelu at ennill profiad arweinyddiaeth uwch yn ein Hadran Gymraeg.

Yn ddelfrydol bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus brofiad ym mhen uchaf Cyfnod Allweddol 2 a bydd yn gallu cynnal y safonau uchel yr ydym yn eu disgwyl.

Yn gyfnewid am hyn, byddwn yn rhoi’r cyfle i’r ymgeisydd llwyddiannus ddatblygu ei sgiliau arwain fel darpar arweinydd yn y sector cyfrwng Cymraeg yn y dyfodol.

Mae diddordeb yn y celfyddydau perfformio a cherddoriaeth yn ddymunol ond nid yw'n hanfodol.

Os bydd angen rhagor o wybodaeth arnoch am y swydd, cysylltwch â Mr Gareth Evans, Pennaeth, ar Ysgol Gynradd Dolau, 01443 237 830.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw canol dydd (12pm) ar 3 Mehefin 2022.

Mae modd cael ffurflenni cais a manylion pellach, gan gynnwys disgrifiad swydd a'r fanyleb person ar gyfer y rôl oddi ar wefan eteach neu drwy'r wefan Recriwtio Ysgolion yn https://rhondda-cynon-taf.tal.net/vx/lang-cy/mobile-0/appcentre-3/brand-4/xf-c76d524b2100/candidate . Nodwch - i gyflwyno cais am y swydd yma, mae angen i chi lenwi'r ffurflen gais ar-lein sydd ar wefan Cyngor RhCT. O beidio â llenwi'r cais ar-lein byddwn ni'n cyfrif hynny fel nad ydych chi wedi gwneud cais am y swydd.

MAE DIOGELU PLANT AC OEDOLION AGORED I NIWED YN GYFRIFOLDEB CRAIDD YR YSGOL A'R CYNGOR. YN OGYSTAL Â'R CYFRIFOLDEB YMA MEWN PERTHYNAS Â DIOGELU, BYDD Y GWASANAETH DATGELU A GWAHARDD HEFYD YN YMCHWILIO'N FANWL I GEFNDIR YR YMGEISYDD LLWYDDIANNUS.

Mae'r Cyngor a'r Ysgol yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaethau anneuaidd, crefydd neu gred, neu feichiogrwydd a mamolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTQ+.

Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.

Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os na fyddwch chi wedi clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.