MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Pencoed,
- Oriau: Full time
- Cytundeb: Parhaol
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: Graddfa Gyflog 4\/5: £25,773 - £31,845 y flwyddyn
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 03 Awst, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Asesydd Dysgu Seiliedig ar Waith mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Coleg Penybont
Cyflog: Graddfa Gyflog 4\/5: £25,773 - £31,845 y flwyddyn
Asesydd Dysgu Seiliedig ar Waith mewn Iechyd a Gofal CymdeithasolGraddfa Gyflog 4/5: £25,773 - £31,845 y flwyddyn
Rydym yn chwilio am asesydd dysgu seiliedig ar waith brwdfrydig i ymuno â'n tîm ymroddedig ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Mae'r rôl hon yn cynnwys asesu a rhoi adborth adeiladol i ddysgwyr sydd wedi cofrestru ar gymwysterau Iechyd a Gofal Cymdeithasol, gan sicrhau eu bod yn bodloni'r safonau academaidd gofynnol a'r cymwyseddau proffesiynol. Fel Asesydd, byddwch yn gwerthuso cynnydd dysgwyr trwy aseiniadau, prosiectau a lleoliadau ymarferol.
Bydd gennych gymwysterau perthnasol mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol neu faes cysylltiedig â'r Dyfarniadau Asesydd priodol, ynghyd â phrofiad ymarferol yn y diwydiant yn y sectorau gofal neu flynyddoedd cynnar. Dylech fod yn gyfarwydd â fframweithiau asesu, rheoliadau ac arferion cyfredol y diwydiant, a bod yn gyfforddus yn gweithio gyda grŵp dysgwyr amrywiol wrth gynnal cyfathrebu clir â dysgwyr, staff a darparwyr lleoliadau.
Mae hwn yn gyfle gwych i wneud effaith gadarnhaol wrth lunio dyfodol gweithwyr proffesiynol iechyd a gofal cymdeithasol. Os ydych chi'n angerddol am feithrin talent ac wedi ymrwymo i addysg o safon, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych chi.
I gael rhagor o wybodaeth, gwelwch becyn gwybodaeth y swydd .
Mae Coleg Penybont yn cydnabod ei gyfrifoldeb i sicrhau diogelwch a lles pob myfyriwr. Rydym yn defnyddio proses drylwyr o wirio addasrwydd staff a gwirfoddolwyr i weithio gyda phlant ac oedolion agored i niwed. Mae'r swydd uchod yn destun datgeliad DBS manylach ar gyfer gweithlu plant ac oedolion a chofrestru fel Ymarferydd Dysgu Seiliedig ar Waith gyda Chyngor y Gweithlu Addysg.
Mae Coleg Penybont yn deall gwerth darparu gwasanaethau yn Gymraeg a'r angen i dyfu ei weithlu dwyieithog. Rydym felly'n annog ceisiadau gan ymgeiswyr sydd â sgiliau Cymraeg da. Nodwch yn eich datganiad personol a fyddai'n well gennych i'ch asesiad/cyfweliad gael ei gynnal yn Gymraeg.
Rydym wrthi'n ceisio gwella cynrychiolaeth o bob rhan o'r gymuned a hyrwyddo cyfleoedd cyfartal. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb, gan gynnwys pobl o wahanol gefndiroedd a chymunedau, ac o wahanol oedrannau.
Rydym yn falch o fod yn Arweinydd Hyderus o ran Anabledd ac rydym yn gwarantu cyfweld ag unrhyw un sydd ag anabledd cyn belled â bod eu cais yn bodloni meini prawf hanfodol y swydd, a'u hystyried ar eu galluoedd. Gallwn hefyd gynnig addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio.
Bydd gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus ddarparu tystiolaeth o'i hunaniaeth a'i gymhwystra i weithio yn y DU.
Nid yw'r Coleg yn cymryd rhan yng Nghynllun Noddi Fisa'r DU, felly bydd rhaid i ymgeiswyr ddarparu tystiolaeth o'u hawl i weithio yn y DU os cynigir rôl iddynt gyda ni.
Noder, efallai y bydd gofyn am gyfweliad neu asesiad ail gam.