MANYLION
  • Lleoliad: Swansea , Swansea, SA1 1NW
  • Pwnc: Asesydd
  • Oriau: Rhan amser
  • Cytundeb: Cyfnod penodol
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Iaith: Saesneg
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Asesydd SSIE Reach

Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales
Ymunwch gyda Ni yn Addysg Oedolion Cymru – Lle Mae Dysgu’n Trawsnewid Bywydau

Yn Addysg Oedolion Cymru, credwn fod addysg yn arf pwerus ar gyfer trawsnewid personol a chymunedol. Fel prif ddarparwr Cymru ar gyfer dysgu oedolion yn y gymuned, rydym wedi ymrwymo i ddarparu cyfleoedd dysgu hygyrch o ansawdd uchel sy’n grymuso unigolion i wireddu eu potensial a chyfrannu’n gadarnhaol at gymdeithas. Ein cenhadaeth yw hyrwyddo dysgu gydol oes ac ehangu mynediad at ddysgu a sgiliau, gan feithrin amgylchedd cynhwysol a chefnogol lle gall pawb ffynnu.

Rydym yn falch o'n gwerthoedd a'n hethos, sydd wedi'u gwreiddio mewn cydraddoldeb, amrywiaeth a pharch. Gwerthfawrogwn ein staff fel ein hased mwyaf ac rydym yn ymroddedig i greu gweithle cadarnhaol, cydweithredol a deinamig lle mae pob aelod o'r tîm yn teimlo ei fod yn cael ei werthfawrogi, ei gefnogi a'i ysgogi i gyflawni ei orau.

Y Rôl: Asesydd SSIE Reach
Mae gennym gyfle gwych o fewn tîm rhanbarthol De-orllewin Cymru i Asesydd Reach ESOL. Byddwch yn cynorthwyo ac yn cefnogi asesu, datblygu a gweithredu prosiect REACH yn ardal Abertawe. Gan weithio gydag ystod eang o unigolion, byddwch yn cyfweld ac yn asesu ymgeiswyr a dysgwyr ESOL ac yn eu cyfeirio at y ddarpariaeth briodol, o safon cyn mynediad i Lefel 2.

Rydym wedi ymrwymo i adeiladu gweithle amrywiol a chynhwysol lle mae pob llais yn cael ei glywed a'i werthfawrogi. Rydym yn croesawu ymgeiswyr o bob cefndir, profiad a phersbectif i ymgeisio.

Amdanoch chi
Bydd gennych brofiad o addysg gymunedol, addysg oedolion neu waith datblygu cymunedol, a brofiadol o weithgareddau hyrwyddo neu farchnata yn y gymuned. Bydd gennych sgiliau trefnu, cydlynu a gweinyddol ardderchog. Mae cymhwyster SSIE (ESOL) lefel 3 yn hanfodol ynghŷd â chynhwyster Dysgu.

Os ydych yn mwynhau amgylchedd gwaith cyflym, amrywiol a gwerth chweil a bod gennych y sgiliau gofynnol, dyma'r cyfle perffaith i ymuno â ni.

Sut i wneud cais
Ymgeisiwch erbyn 12.00yp Dydd Llun 21ain Gorffennaf gan ddefnyddio'r ffurflen gais ar gael ar wefan Addysg Oedolion Cymru - nodwch nad ydym yn derbyn CV. Ceir rhagor o fanylion am y rôl ynghyd â manyleb swydd a person yn y pecyn cais.

Cynhelir cyfweliadau ddydd Mercher 30ain ac dydd Iau 31ain Gorffennaf. Os na allwch fynychu ar y dyddiadau hyn, gwnewch yn siŵr eich bod yn nodi hyn ar eich cais ac yn cadarnhau eich argaeledd.

Mae Addysg Oedolion Cymru yn cydnabod pwysigrwydd datblygu a thyfu ei weithlu dwyieithog ac amrywiol. Gellir cyflwyno ceisiadau am unrhyw swydd yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg.

Mae safbwyntiau a phrofiadau amrywiol yn hanfodol i’n llwyddiant, ac rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o unrhyw gefndir sydd â’r profiad a’r sgiliau sydd eu hangen i gyflawni’r rôl hon.