MANYLION
  • Lleoliad: SWANSEA, Swansea, SA2 9EB
  • Testun: Bioleg
  • Oriau: Amser llawn
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Salary Range: £21,506 - £42,326
  • Iaith: Saesneg
  • Dyddiad Cau: 01 Mehefin , 2022 11:59 y.p

This job application date has now expired.

Darlithydd - Bioleg

Darlithydd - Bioleg

Coleg Gwyr Abertawe
Mae cyfle cyffrous wedi codi i unigolyn profiadol, dawnus a brwdfrydig i addysgu cyrsiau Bioleg AS a Safon Uwch. Bydd yr ymgeisydd delfrydol yn meddu ar radd mewn Bioleg, profiad llwyddiannus o addysgu cwrs Bioleg Safon Uwch mewn amgylchedd ôl-16, a bydd ganddo gymhwyster addysgu cydnabyddedig.

Trwy weithio mewn tîm, byddwch yn datblygu a defnyddio ystod eang o strategaethau addysgu, dysgu ac asesu, a byddwch yn monitro cynnydd dysgwyr a darparu adborth effeithiol trwy gydol y flwyddyn academaidd. Mae sicrhau ardderchowgrwydd mewn dysgu ac addysgu un flaenoriaeth allweddol i’r Coleg a bydd disgwyl i chi gyfrannu’n llawn at gyfarfodydd tîm a chael effaith gadarnhaol ar ansawdd cyffredinol y maes pwnc hwn.

Byddwch yn gyfathrebwr hyderus, yn frwdfrydig ac yn ymrwymedig, a byddwch yn medru ysgogi, ysbrydoli a herio dysgwyr i gyflawni eu potensial llawn. Bydd gennych hefyd sgiliau trefnu a datrys problemau da iawn, ynghyd â pharodrwydd i weithio’n hyblyg.

Bydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus gyfrannu at ddarparu Tystysgrif Her Sgiliau Uwch Bagloriaeth Cymru, gan helpu myfyrwyr i gwblhau Prosiectau Unigol sy’n ymwneud â Gwyddoniaeth.

Dyma gyfle gwych i ymgeisydd o’r radd flaenaf ymuno ag adran sefydledig a gweithio i Goleg sydd ag enw da am ddarparu cyrsiau Safon Uwch.

Ni cheir ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.

Mae Coleg Gwyr Abertawe yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles pobl ifanc ac yn disgwyl i’r holl staff rhannu’r ymrwymiad hwn. Bydd penodiadau eu gwneud ar sail gwiriad DBS manylach a bydd gofyn i chi ymaelodi â Chyngor Gweithlu Addysg Cymru.

Rydym yn disgwyl nifer fawr o ymgeiswyr ar gyfer y swydd wag hon. Os derbynnir llawer o geisiadau, efallai y byddwn yn atal unigolion rhag cyflwyno cais cyn y dyddiad penodedig. Awgrymir felly ichi gyflwyno’ch cais yn gynnar.