MANYLION
  • Lleoliad: Pembroke, Pembrokeshire, SA71 4RL
  • Testun: Athro
  • Oriau: Amser llawn
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Salary Range: £27,491 - £42,333
  • Iaith: Saesneg

This job application date has now expired.

Athro/Athrawes Gwyddoniaeth

Athro/Athrawes Gwyddoniaeth

Ysgol Harri Tudur
Llawn amser, Parhaol
Mae croeso i geisiadau gan ANG.
Yn ofynnol ar gyfer Medi 2022
Rydym yn chwilio am Athro/Athrawes Gwyddoniaeth rhagorol. Efallai eich bod yn Athro Newydd Gymhwyso. Byddwch yn unigolyn cadarn ond teg, deinamig, uchelgeisiol a brwdfrydig gyda rhinweddau arweinyddiaeth yn yr ystafell ddosbarth i addysgu Gwyddoniaeth i CA3, 4 a 5. Byddai'r gallu i addysgu Ffiseg yn fantais. Fodd bynnag, byddem hefyd yn croesawu ceisiadau gan gemegwyr a biolegwyr.

Mae Ysgol Harri Tudur / Henry Tudor School yn ysgol gyffrous a chroesawgar i weithio ynddynt. Mae ein hysgol yn parhau ar ei thaith wella gyflym wrth geisio rhagoriaeth, yn dilyn adroddiad cadarnhaol gan Estyn ym mis Ionawr 2022.

Rydym yn croesawu’n gynnes ymgeiswyr talentog, uchelgeisiol, egnïol a gwydn sydd nid yn unig yn dymuno ymuno â ni ar y daith honno ond sy’n gwneud cyfraniad gwerthfawr i’w llwyddiant yn y dyfodol.

Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn:
• Ymarferydd ystafell ddosbarth rhagorol
• Arbenigwr pwnc arloesol
• Gyfathrebwr rhagorol
• Meddu ar y weledigaeth a’r ysgogiad i sicrhau bod ein holl ddisgyblion yn llwyddo
• Ysgogi, herio, cefnogi ac ysbrydoli ein disgyblion
• Ymrwymedig i godi cyrhaeddiad ar draws pob gallu beth bynnag a fo’u man cychwyn
• Ymrwymedig i gefnogi cydweithwyr
• Meddu ar brofiad o weithredu newid sy’n effeithio’n gadarnhaol ar ddysgu disgyblion
• Bod yn angerddol am Wyddoniaeth ac am ei haddysgu ar draws pob ystod oedran a gallu

Byddai’r swydd hon yn gweddu i athro profiadol ond mae croeso i geisiadau gan ANG.

Y dyddiad cau ar gyfer dychwelyd ceisiadau yw Dydd Sul 19 Mehefin 2022

Cynhelir cyfweliadau ar ddydd Gwener 24 Mehefin 2022

Gresynwn na fydd modd rhoi adborth i geisiadau aflwyddiannus