MANYLION
  • Lleoliad: SWANSEA, Swansea, SA2 9EB
  • Testun: Rheolwr Datblygu
  • Oriau: Amser llawn
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Salary Range: £32,938 - £34,897
  • Iaith: Saesneg
  • Dyddiad Cau: 07 Mehefin , 2022 11:59 y.p

This job application date has now expired.

Arbenigwr Marchnata Masnachol

Arbenigwr Marchnata Masnachol

Coleg Gwyr Abertawe
Mae cyfle cyffrous wedi codi i Arbenigwr Marchnata Masnachol weithio ochr yn ochr â’r Pennaeth Ymgysylltu â Chyflogwyr a’r Rheolwr Marchnata s Derbyn i reoli, cynllunio a gweithredu strategaeth farchnata ar gyfer Hyfforddiant CGA. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus hefyd yn gorfod gweithredu fel rheolwr llinell a mentora staff. Mi fydd hefyd yn gorfod rheoli cyllidebau.

Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus ddealltwriaeth gynhwysfawr o dechnegau a gweithgareddau cyfathrebu marchnata, profiad o weithio gyda B2B, profiad o gynllunio a chyflwyno ymgyrchoedd marchnata ynghyd â llygad wych am fanyler.

Bydd gan ymgeiswyr radd (neu gymhwyster cyfatebol) a chymhwyster cydnabyddedig mewn marchnata/Cysylltiadau Cyhoeddus neu brofiad cyfwerth.

Bydd angen i ymgeiswyr feddu ar brofiad o weithredu tactegau marchnata, dealltwriaeth dda o blatfformau cyfryngau cymdeithasol a’r gallu i gyfathrebu a rhwydweithio’n effeithiol ar bob lefel. Rhaid i ymgeiswyr feddu ar Lefel 4 mewn sgiliau Cymraeg.

Ni cheir ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.

Mae Coleg Gwyr Abertawe yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles pobl ifanc ac yn disgwyl i’r holl staff rhannu’r ymrwymiad hwn. Mae apwyntiadau'n amodol ar wiriad manylach gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Rydym yn disgwyl nifer fawr o ymgeiswyr ar gyfer y swydd wag hon. Os derbynnir llawer o geisiadau, efallai y byddwn yn atal unigolion rhag cyflwyno cais cyn y dyddiad penodedig. Awgrymir felly ichi gyflwyno’ch cais yn gynnar.

Fel rheol, bydd penodiadau yn cael eu gwneud ar waelod y raddfa gyflog gyda chynyddrannau blynyddol ar 1 Awst bob blwyddyn (ar yr amod eich bod wedi cwblhau 6 mis o wasanaeth).

Nid oes angen i ymgeiswyr blaenorol wneud cais.