MANYLION
  • Lleoliad: Llangefni, Isle of Anglesey, LL77 7HY
  • Testun: Gweinyddwr
  • Oriau: Amser llawn
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Salary Range: £19,980 - £21,395
  • Iaith: Dwyieithog
  • Dyddiad Cau: 07 Mehefin , 2022 12:00 y.p

This job application date has now expired.

CYNORTHWYYDD GWEINYDDOL

CYNORTHWYYDD GWEINYDDOL

Grwp Llandrillo Menai
Am wybodaeth bellach a ffurflen gais ymwelwch â - https://www.gllm.ac.uk/jobs

PRIF BWRPAS

Darparu cefnogaeth weinyddol gyfrinachol i'r meysydd rhaglen.

PRIF DDYLETSWYDDAU A CHYFRIFOLDEBAU:

1. Datblygu a chynnal systemau a gweithdrefnau monitro’r canlynol, gan weithio'n agos gyda'r tîm rheoli:

a) amserlenni, hawliadau cyflog a chyllideb staff rhan-amser
b) ceisiadau staff am dâl goramser, a hawliadau a chofnodion TOIL
c) cyllidebau ar gyfer nwyddau traul
d) trefnu cyfarfodydd a chymryd cofnodion
e) trefnu a phrosesu adolygiadau perfformiad, sesiynau arsylwi a thrafodaethau proffesiynol
f) archebu offer a chyfarpar ac ati, a chofnodi hynny'n briodol
g) cynorthwyo i gasglu deunyddiau marchnata
h) cynorthwyo i drefnu digwyddiadau, rhai rheolaidd a digwyddiadau unigryw
archebu ystafelloedd
i) gwaith cysylltu sydd ynghlwm â chyfarfodydd/partneriaethau mewnol ac allanol
j) casglu taflenni amser staff ar gyfer prosiectau penodol
k) Cofrestru dysgwyr gyda'r cyrff dyfarnu fel bo'r angen.

2. Cadw cofnodion cyfredol o fanylion staff llawn amser a rhan amser, yn cynnwys ffurflenni cais, sesiynau cynefino, yr adolygiad 3 mis a chofnodion cyfnod prawf, cofnodion gwerthuso a datblygiad staff.

3. Datblygu a chynnal systemau ffeilio amrywiol, a sicrhau y gall y gweithwyr priodol gael gafael ar wybodaeth yn rhwydd.

4. Bod yn gyswllt rheng flaen â chwsmeriaid allanol posibl ac â chwsmeriaid cyfredol, rhieni, myfyrwyr, ac eraill, a delio â chyfathrebiadau mewnol.

5. Trefnu a chofnodi cyfarfodydd ar gais y tîm rheoli.

6. Ymdrin â’r holl bost a dderbynnir ac a anfonir gan y maes rhaglen, a sicrhau ei fod yn cael ei ddosbarthu’n ddiymdroi ac yn effeithlon.

7. Sicrhau bod cysylltiadau cyfathrebu effeithiol yn cael eu cynnal gyda'r dderbynfa/adran weinyddol a staff y gofrestrfa.

8. Sicrhau bod ethos dwyieithog ac amlddiwylliannol y Coleg yn cael ei gynnal a’i ddatblygu drwy gyfrwng negeseuon ac adnoddau.

9. Rheoli dyddiaduron ac apwyntiadau’r tîm rheoli, a threfnu bod rheolwr ar ddyletswydd yn ystod gwyliau.

10. Cynorthwyo gyda gweithgareddau marchnata a recriwtio’r Coleg, a chymryd rhan mewn dyddiau/nosweithiau agored, digwyddiadau recriwtio ac ati.

11. Sicrhau cydymffurfio â deddfwriaeth berthnasol ym mhob agwedd ar ddyletswyddau deiliad y swydd - Diogelu Data, Iechyd a Diogelwch.

12. Cyflawni dyletswyddau eraill perthnasol ar gais y Pennaeth Cynorthwyol neu reolwr perthnasol.

JOB REQUIREMENTS
Gweler ynghlwm....