MANYLION
- Lleoliad: Maldwyn, Powys, LL23 7ST
- Testun: Gwaith Ieuenctid
- Oriau: Amser llawn
- Cytundeb: Parhaol
- Math o gyflog: Blynyddol
- Salary Range: £25,211 - £28,223
- Iaith: Cymraeg
This job application date has now expired.
Teitl y Swydd: Swyddog Cymunedol Maldwyn
Math o gontract: Swydd barhaol, llawn amser (35 awr yr wythnos)
Graddfa: Graddfa 4: £25,211 (Pwynt 1) - £28,223 (Pwynt 4)
Lleoliad: O fewn y Rhanbarth
Amdanom ni
Urdd Gobaith Cymru yw mudiad ieuenctid cenedlaethol mwyaf Cymru sy’n darparu cyfleoedd i blant a phobl ifanc ymwneud â chwaraeon, y celfyddydau, gwirfoddoli, hyfforddiant, gwaith dyngarol, rhyngwladol a phreswyl, sy’n eu galluogi i wneud cyfraniad cadarnhaol i’w cymuned a’r byd yn ehangach.
Ers ei sefydlu yn 1922, mae’r mudiad wedi meithrin cenedlaethau o bobl ifanc i fod yn falch o’u gwlad, yn agored i eraill ac yn ymgorfforiadau o’n hiaith a’n diwylliant, yn ogystal â meddu ar y gwerthoedd byd-eang y parchir yng Nghymru. Hyd yma mae dros 4 miliwn o bobl wedi bod yn aelodau o’r Urdd ac eleni mae’r mudiad yn edrych ymlaen at ddathlu ei ganmlwyddiant a chydag nifer o ddigwyddiadau mawr wedi’u cynllunio’n arbennig.
Yr Urdd yw cyflogwr trydydd sector cyfrwng Cymraeg mwyaf yng Nghymru, gyda dros 200 o staff wedi’u lleoli mewn 12 swyddfa ledled Cymru. Roedd ei drosiant blynyddol cyn Covid bron yn £12M, a daeth â gwerth economaidd o £32M i Gymru yn ystod 2019/20.
Anfonwch ffurflen gais ar e-bost at swyddi@urdd.org
Am fwy o wybodaeth plîs cysylltwch gyda Sian Rogers, Cyfarwyddwr Ieuenctid a Chymuned ar sianrogers@urdd.org
Dyddiad Cau: 20 Mehefin 2022
Dyddiad Cyfweld : 23/24 Mehefin 2022
Mae’r Urdd yn cefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ein holl waith a gweithgareddau. Rydym yn croesawu ymgeiswyr o bob cefndir a chymuned, ac yn benodol y rhai sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn ein gweithlu ar hyn o bryd. Mae’r rhain yn cynnwys ond nid ydynt yn gyfyngedig i ymgeiswyr anabl a phobl ddiwylliannol ac ethnig amrywiol.