MANYLION
  • Lleoliad: Carmarthen, Carmarthenshire, SA31 3HB
  • Testun: Athro
  • Oriau: Amser llawn
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Salary Range: £27,491 - £42,333
  • Iaith: Dwyieithog

This job application date has now expired.

Athro/Athrawes ADY: Arweinydd Gwyddoniaeth, Technoleg a TGCh

Athro/Athrawes ADY: Arweinydd Gwyddoniaeth, Technoleg a TGCh

Cyngor Sir Caerfyrddin
Rydym yn sefydlu canolfan dysgu ac addysgu newydd yng Nghaerfyrddin ar gyfer disgyblion ag anawsterau ymddygiadol, emosiynol a chymdeithasol (BESD) ac yn awyddus i benodi athrawon pwnc arbenigol i allu cyflwyno darpariaeth addysg o ansawdd uchel i’n dysgwyr.

Fel darpariaeth newydd, bydd hwn yn gyfle gwych i ddangos eich sgiliau addysgu drwy ennyn diddordeb, annog ac ysgogi dysgwyr ifanc i gyrraedd eu potensial mewn amgylchedd adferol ac sy’n wybodus o drawma.

Bydd angen ichi fod â lefel dda o Gymraeg llafar. Gellir darparu cymorth i gyrraedd y lefel hon ar ôl penodi.

Am sgwrs anffurfiol cysylltwch â Mrs Jo Antoniazzi ar 07768 295473.

Bydd gwiriad Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn ofynnol ar gyfer y swydd hon.

Bydd angen i'r ymgeisydd llwyddiannus gael ei gofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg ar gyfer Cymru cyn cael ei benodi.