MANYLION
  • Lleoliad: Llanelli , Carmarthenshire, SA15 3LS
  • Testun: Athro
  • Oriau: Amser llawn
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Salary Range: £27,491 - £42,333
  • Iaith: Dwyieithog
  • Dyddiad Cau: 06 Mehefin , 2022 11:59 y.p

This job application date has now expired.

Athro / Athrawes  - Ysgol Heol Goffa

Athro / Athrawes - Ysgol Heol Goffa

Ysgol Heol Goffa
Mae Ysgol Heol Goffa yn ysgol arbennig yn Sir Gaerfyrddin ar gyfer disgyblion 3-19 oed sydd ag Anawsterau Dysgu Difrifol ac anghenion meddygol Dwys, Lluosog a Chymhleth. Ar hyn o bryd mae 111 o ddisgyblion ar y gofrestr, a disgwylir i nifer y disgyblion gynyddu ym mis Medi 2022.

Mae Pennaeth a Llywodraethwyr yr ysgol lwyddiannus, hapus a chefnogol hon am benodi athro dosbarth/athrawes ddosbarth eithriadol ac ysbrydoledig i ymuno â'n tîm ysgol cyffrous wrth i ni symud ymlaen tuag at adeilad newydd ac arloesol, a chyfnod trawsnewidiol mewn addysg ac ADY yng Nghymru.

Am drafodaeth anffurfiol cysylltwch â Ceri Hopkins - 01554 759465 - admin@heolgoffa.ysgolccc.cymru

Bydd angen ichi fod â gwybodaeth sylfaenol am y Gymraeg. Gellir darparu cymorth i gyrraedd y lefel hon ar ôl penodi.

Bydd gwiriad Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn ofynnol ar gyfer y swydd hon.

Bydd angen i'r ymgeisydd llwyddiannus gael ei gofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg ar gyfer Cymru cyn cael ei benodi.