MANYLION
  • Lleoliad: Abergele,
  • Oriau: Full time
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: £27,231 - £29,550 y flwyddyn, yn ddibynnol ar gymwysterau a phofiad
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 04 Rhagfyr, 2024 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Aseswr Dysgu yn y Gweithle - Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Oedolion

Grwp Llandrillo Menai

Cyflog: £27,231 - £29,550 y flwyddyn, yn ddibynnol ar gymwysterau a phofiad

Golyga'r swydd hon fod yn gyfrifol am recriwtio, cadw a rheoli llwyth achosion safonol o ddysgwyr sydd wedi dewis cofrestru ar gymwysterau Dysgu yn y Gweithle Iechyd a gofal cymdeithasol.

Mae'r Asesydd yn gyfrifol am ddarparu hyfforddiant, asesu, a sicrhau ansawdd gwaith y dysgwyr. Bydd yr asesydd yn goruchwylio dealltwriaeth a chymhwysedd ymarferol y dysgwyr yn y gweithle.

Gallai enghreifftiau o hyn gynnwys - mewn cartrefi preswyl i'r henoed, Unigolion ag anableddau dysgu/Awtistiaeth/iechyd meddwl. Lleoliadau byw ar y cyd i oedolion, gwaith cymorth cymunedol i oedolion, gofal sylfaenol, practis cyffredinol ac amgylcheddau clinigol y GIG.

Bydd disgwyl i'r asesydd recriwtio dysgwyr a darparu amrywiaeth o gymwysterau Dysgu yn y Gweithle Iechyd a gofal cymdeithasol.

O ddydd i ddydd bydd y swydd yn golygu cyfarfod â dysgwyr a chyflogwyr mewn lleoliadau gwaith gwahanol. Ar y cyfan, bydd hyn yn digwydd yn ddigidol ond bydd peth teithio'n ddisgwyliedig, gan weithio'n annibynnol i sicrhau cydymffurfiaeth â gofynion cymwysterau. Bydd gofyn i'r asesydd feddu ar y sgiliau i gynllunio ymweliadau mewn modd rhesymegol o ran cyfyngu ar deithio a gwneud y defnydd gorau o amser. Yn ogystal, bydd yn darparu adnoddau a chefnogaeth i fodloni anghenion unigol pob dysgwr yn ei ddewis iaith.

Bydd yr asesydd yn cynrychioli tîm aseswyr Busnes a Digidol busnes@gllm a bydd disgwyl iddo hyrwyddo'r cyrsiau a gynigir er mwyn annog dysgwyr i gofrestru arnynt. Byddai'r gallu i addysgu grwpiau bach mewn sesiynau gweithdy ym maes gwasanaethau i gwsmeriaid, y cyfryngau cymdeithasol a marchnata digidol yn fanteisiol, fodd bynnag, gwneir y rhan fwyaf o'r cyflawni yn y maes hwn ar sail 1-1

Manylion Swydd
Cyfeirnod y Swydd
BD/070/24

Cyflog
£27,231 - £29,550 y flwyddyn, yn ddibynnol ar gymwysterau a phofiad

Lleoliad Gwaith
  • Abergele
  • Lleoliad gwaith i'w drafod

Hawl gwyliau
  • 28 diwrnod y flwyddyn, yn codi i 32 diwrnod ar ôl pum mlynedd lawn o wasanaeth di-dor (01 Medi i 31 Awst).
  • Yr holl wyliau cyhoeddus arferol, i'w pennu'n flynyddol.
  • Hyd at 5 diwrnod effeithlonrwydd / diwrnod y trefnwyd i'r safle fod ar gau bob blwyddyn, i'w pennu'n flynyddol.

Patrwm gweithio
37 awr yr wythnos

Hawliau Pensiwn
Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol

Math o gytundeb
Llawn Amser Parhaol

Dyddiad cau
04 Rhag 2024
12:00 YH(Ganol dydd)