MANYLION
  • Oriau: Full time
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: £25,584 - £26,835 Pro Rata | Grade 4
  • Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Gweithiwr Gofal Plant 0-2 y Blynyddoedd Cynnar

Torfaen Local Authority

Cyflog: £25,584 - £26,835 Pro Rata | Grade 4

Mae'n hanfodol eich bod yn dangos sut rydych yn bodloni'r meini prawf 'hanfodol' a restrir yn y Fanyleb Person atodol, er mwyn sicrhau cyfweliad: Sut i wneud cais - canllaw i ymgeiswyr | Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen .

Mae Tîm y Blynyddoedd Cynnar yn chwilio am Weithiwr Gofal Plant sy'n gymwys, yn brofiadol a brwdfrydig i ofalu am blant o dan ddwy oed. Bydd hyn yn cynnwys trefn cysgu, bwydo, diddyfnu ac amgylchedd chwarae priodol.

Byddwch yn gyfrifol am gynorthwyo'r Goruchwylydd Gofal Plant i gynnig darpariaeth gofal plant o ansawdd uchel yn y maes hwn.

Rhaid i ddeiliad y swydd feddu ar gymhwyster perthnasol yn y Blynyddoedd Cynnar/Gofal Plant fel NVQ Lefel 3 neu gyfwerth.

Byddai'r gallu i siarad Cymraeg yn fantais neu dylech fod yn barod i ddysgu.

Rhaid bod gennych brofiad o weithio gyda phlant 0-2 oed a dealltwriaeth o'r hyn sydd ei angen i ddarparu amgylchedd dysgu o ansawdd uchel ar gyfer plant 0-5 oed. Byddai profiad o ddarpariaeth Dechrau'n Deg yn ddymunol.

I gael trafodaeth anffurfiol am y swydd wag hon, cysylltwch ag Emma Edwards ar 07940 792823.

Mae'r swydd hon wedi'i heithrio o Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr 1974. Bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei chynnal ar bob ymgeisydd a fydd yn cynnwys gwiriad gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd

Mae Cyngor Bwrdeistref Siriol Torfaen yn ymdrechu i fod yn gyflogwr teg, cefnogol ac effeithiol. Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo llesiant plant, pobl ifanc ac oedolion sy'n agored i niwed. Mae'r Cyngor yn disgwyl i'w gyflogeion, boed yn gweithio am dâl neu'n ddi-dâl, i rannu'r ymrwymiad hwn.

Mae croeso i chi gyflwyno eich cais yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Bydd pob cais yn cael ei drin yn gyfartal.