MANYLION
  • Lleoliad: Bangor,
  • Oriau: Full time
  • Cytundeb: Cyfnod penodol
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: £27,231 - £29,550 y flwyddyn, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 03 Rhagfyr, 2024 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Aseswr Dysgu yn y Gweithle - Gofal Plant a Cynorthwyydd Addysgu (Cyfnod Mamolaeth) hyd at Gorffennaf 2025, Bangor

Grwp Llandrillo Menai

Cyflog: £27,231 - £29,550 y flwyddyn, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad

Mae'r adran gofal plant yn cynnig ystod o gymwysterau sef gofal plant, plant a phobl ifanc, cynorthwyydd addysgu a hefyd mewn gwaith chwarae. Golyga'r swydd hon fod yn gyfrifol am recriwtio, cadw a rheoli llwyth achosion safonol o ddysgwyr sydd wedi dewis cofrestru ar gymwysterau Gofal Plant/ neu Plant a Phobl ifanc.

Mae'r Asesydd yn gyfrifol am ddarparu hyfforddiant, asesu, a sicrhau ansawdd gwaith y dysgwyr. Bydd yr asesydd yn goruchwylio dealltwriaeth a chymhwysedd ymarferol y dysgwyr yn y gweithle.

Bydd disgwyl i'r aseswr recriwtio, cefnogi ac annog gweithgareddau marchnata yn unol â maes y Rhaglen, ac ymgysylltu â digwyddiadau ymgysylltu â chyflogwyr ar gyfer amrywiaeth o gymwysterau mewn Gofal Plant, Cynorthwywyr Addysgu, Plant a Phobl ifanc a Gwaith Chwarae a chefnogi cyd-aseswyr. Mae'n rhaid i'r aseswr gefnogi a monitro cynnydd y dysgwyr a chwblhau'n amserol, a mynychu cyfarfodydd Maes Rhaglen a safoni.

O ddydd i ddydd bydd y swydd yn golygu cyfarfod â dysgwyr a chyflogwyr mewn lleoliadau gwaith gwahanol. Ar y cyfan, bydd hyn yn digwydd yn ddigidol ond bydd peth teithio'n ddisgwyliedig, gan weithio'n annibynnol i sicrhau cydymffurfiaeth â gofynion cymwysterau.

Bydd gofyn i'r asesydd feddu ar y sgiliau i gynllunio ymweliadau mewn modd rhesymegol o ran cyfyngu ar deithio a gwneud y defnydd gorau o amser. Yn ogystal, bydd yn darparu adnoddau a chefnogaeth i fodloni anghenion unigol pob dysgwr yn ei ddewis iaith.

Bydd yr asesydd yn cynrychioli tîm aseswyr Gofal Plant Busnes@GLLM a bydd disgwyl iddo hyrwyddo'r cyrsiau a gynigir er mwyn annog dysgwyr i gofrestru arnynt

Manylion Swydd
Cyfeirnod y Swydd
BD/067/24

Cyflog
£27,231 - £29,550 y flwyddyn, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad

Lleoliad Gwaith
  • Bangor

Hawl gwyliau
28 diwrnod y flwyddyn (01 Medi i 31 Awst).

Yr holl wyliau cyhoeddus arferol, i'w pennu'n flynyddol.

Hyd at 5 diwrnod effeithlonrwydd / diwrnod y trefnwyd i'r safle fod ar gau bob blwyddyn, i'w pennu'n flynyddol.

Patrwm gweithio
37 awr yr wythnos, Dydd Llun i Ddydd Sadwrn

Hawliau Pensiwn
Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol

Math o gytundeb
Llawn Amser Cyfnod Penodol

Dyddiad cau
03 Rhag 2024
12:00 YH(Ganol dydd)