MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Rhos-on-Sea,
- Oriau: Part time
- Cytundeb: Cyfnod penodol
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: £13,424 - £19,867 y flwyddyn, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad
- Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Mentor Llwyddiant Dysgwyr, Tymor yn Unig hyd at 04 Gorffennaf 2025 (2 swydd ar gael)
Grwp Llandrillo Menai
Cyflog: £13,424 - £19,867 y flwyddyn, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad
- Ydych chi yn hoffi gweld pobl ifanc yn llwyddo?
- Oes gennych chi y sgiliau i gael y gorau allan o bobl ifanc?
- Ydych chi'n berson agored; hwyliog a phenderfynol?
- Ydych chi yn hoffi gweithio a helpu pobl ifanc i gyflawni eu potensial?
............Os ydych yn ateb yr uchod yn gadarnhaol ac yn awyddus i wneud gwahaniaeth i fywydau a dyfodol pobl ifanc yng Nghonwy a Dinbych, yna mae'r swydd hon yn ddelfrydol ar eich cyfer chi. Byddwch yn gweithio gyda thîm o staff ymroddedig eraill i sicrhau cyfleon a chefnogaeth deilwng i ddysgwyr Coleg Llandrillo.
Manylion Swydd
Cyfeirnod y Swydd
CL/062/24
Cyflog
£13,424 - £19,867 y flwyddyn, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad
Lleoliad Gwaith
- Llandrillo-yn-Rhos
Hawl gwyliau
- 28 diwrnod y flwyddyn (01 Medi i 31 Awst).
- Yr holl wyliau cyhoeddus arferol, i'w pennu'n flynyddol.
- Hyd at 5 diwrnod effeithlonrwydd / diwrnod y trefnwyd i'r safle fod ar gau bob blwyddyn, i'w pennu'n flynyddol.
Bydd gan y rhai ar gontractau Amser Tymor hawl pro rata i'r hyn a nodir uchod a delir fel rhan o'r cyflog blynyddol.
Patrwm gweithio
25 hyd at 37 awr yr wythnos, Dydd Llun i Ddydd Gwener
Hawliau Pensiwn
Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
Math o gytundeb
Rhan Amser Cyfnod Penodol
Dyddiad cau
29 Tach 2024
12:00 YH(Ganol dydd)