MANYLION
  • Lleoliad: Deeside, Flintshire, CH5 4BR
  • Testun: Adnoddau Dynol
  • Oriau: Amser llawn
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Salary Range: £35,811 - £38,934
  • Iaith: Saesneg
  • Dyddiad Cau: 05 Mehefin , 2022 11:45 y.p

This job application date has now expired.

Partner Busnes AD

Partner Busnes AD

Coleg Cambria
Yma yng Ngholeg Cambria rydym yn bwriadu ehangu ein tîm gyda’r swydd newydd ar gyfer Partner Busnes AD. Bydd y swydd wedi ei lleoli ar ein safle yng Nglannau Dyfrdwy yn bennaf, fodd bynnag, bydd disgwyl i ymgeiswyr deithio ar draws safleoedd Coleg Cambria.

Rydym yn chwilio am ymgeiswyr a fydd yn gallu sicrhau gwasanaeth AD sy’n perfformio’n dda, yn rhagweithiol ac yn cynnig gwasanaeth sy’n canolbwyntio ar fusnes i feysydd penodedig y Coleg.

Bydd angen gweithio mewn partneriaeth gyda rheolwyr y Coleg ar ystod lawn o faterion AD i ddarparu safonau uchel cyson o wasanaeth AD. Bydd hyn yn cynnwys datblygu cynlluniau pobl mewn partneriaeth â meysydd cyfarwyddiaeth/gwasanaethau er mwyn gwella perfformiad busnes, cynllunio’r gweithlu, ymgysylltu â gweithwyr, rheoli absenoldebau a chysylltiadau gweithwyr.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cefnogi, arwain a hyfforddi rheolwyr am faterion cyflogaeth o fewn eu timau gan gefnogi a chynghori rheolwyr gyda phrosesau newidiadau sefydliadol.
Rydym yn chwilio am ymgeiswyr sydd â’r sgiliau i weithio mewn rôl hynod amrywiol a chyflym gan ddarparu lefel uchel o wasanaeth i gwsmeriaid.

Mae’n bwysig i’r ymgeisydd fod yn gyfforddus yn gweithio gyda metrigau pobl a gallu defnyddio data a dadansoddeg yn hyderus er mwyn deall ac adnabod cyfleoedd am welliannau.