MANYLION
  • Oriau: Full time
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: Graddfa 5 Pwynt 7 i Bwynt 9 £25,584 i £26,409 y flwyddyn ar gyfartaledd £13.26 i £13.68 yr awr
  • Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Cynorthwyydd Addysgu (Generig) Lefel 3 (Trochi)

Cyngor Sir Powys

Cyflog: Graddfa 5 Pwynt 7 i Bwynt 9 £25,584 i £26,409 y flwyddyn ar gyfartaledd £13.26 i £13.68 yr awr

Cynorthwyydd Addysgu (Generig) Lefel 3 (Trochi)
Swydd-ddisgrifiad
Mae'r gallu i ddefnyddio'r Gymraeg yn gymhwyster hanfodol ar gyfer y swydd hon

Lleoliad/Canolfan Waith - Llandrindod / Aberhonddu (teithiol)

Am y rôl:

Mae datblygu darpariaeth drochi drwy ganolfannau dynodedig yn gam cyffrous i'r Gymraeg ym Mhowys ac mae'n rhan o'r weledigaeth i gynyddu cyfleoedd mynediad at addysg Gymraeg. Mae'r swydd hon ar gyfer unigolyn ag angerdd dros y Gymraeg, ynghyd â'r amynedd a'r brwdfrydedd i gefnogi plant o Flwyddyn 2 i 6 sy'n cael mynediad at Ganolfan Iaith drochi yng nghanolbarth Powys (ardal Llanfair ym Muallt) ac yn eu hysgolion.

Amdanoch chi:
  • Cymhwyster Cynorthwy-ydd Addysgu : Lefel 3
  • Y gallu i gyfathrebu yn hyderus yn Gymraeg
  • Angerdd dros y Gymraeg
  • Ymrwymiad a brwdfrydedd i gefnogi plant o Flwyddyn 2 i Flwyddyn
  • Sgiliau rhyngbersonol cryf
  • Mae'r gallu i deithio'n hanfodol
Eich dyletswyddau:
  • Gan weithio o dan gyfarwyddyd yr athrawes bydd cyfleoedd i weithio gydag unigolion a grwpiau o ddisgyblion, yn ogystal â rhywfaint o oruchwyliaeth dosbarth cyfan.
  • Pan fydd y dysgwyr yn trosglwyddo i'w hysgolion eu hunain bydd disgwyliad y bydd y Cynorthwy-ydd Dysgu yn cefnogi'r broses bontio honno ac yn rhannu gwybodaeth ac adnoddau perthnasol gyda'r athro/athrawes dosbarth er mwyn sicrhau trosglwyddiad llyfn i'r dysgwr.
  • Bydd hyn yn cynnwys teithio a bydd costau teithio yn cael eu talu ar y cyfraddau arferol.
Am ragor o wybodaeth am y swydd hon, gallwch gysylltu â

Bethan Price - bethan.price5@powys.gov.uk

Mae angen Gwiriad Manylach y DBS i'r swydd hon.