MANYLION
- Lleoliad: Aberteifi, SA43 1AB
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: £37,171 - £39,375 / blwyddyn
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 16 Medi, 2024 12:00 y.b
This job application date has now expired.
Cyflog: £37,171 - £39,375 / blwyddyn
Cydlynydd LlesApplication Deadline: 16 September 2024
Department: Lles
Employment Type: Parhaol
Location: Campws Aberteifi
Reporting To: Rheolwr Lles
Compensation: £37,171 - £39,375 / blwyddyn
DescriptionMae'r swydd yn darparu cyfle cyffrous a llawn her i unigolyn rhagweithiol a dyfeisgar i gydlynu swyddogaethau cefnogi'r Tîm Lles. Bydd y swyddogaethau hyn yn cwmpasu holl agweddau Profiad Dysgwyr gan gynnwys Lles Dysgwyr; Tiwtorial; Disgyblu a Rheoli Ymddygiad; Addasrwydd i Astudio; Cymorth Ariannol; Cysylltu ag Undeb y Myfyrwyr a Llais y Dysgwr.
Mae'r swydd yn rhan o dîm rheoli y gyfarwyddiaeth Profiad Dysgwyr a bydd deilydd y swydd yn gweithio'n agos gydag uwch aelodau eraill y tîm, gan gynnwys y Cyfarwyddwr Profiad Dysgwyr; Pennaeth Cefnogi Dysgwyr a Lles; Cydlynydd Cynghori, Cydlynydd Byddwch Actif a Chydlynwyr Lles cyfatebol mewn lleoliadau eraill ar draws y coleg.
Bydd gan ddeilydd y swydd gyfrifoldeb rheolaeth llinell uniongyrchol dros dîm o Fentoriaid Lles.
Cyfrifoldebau Allweddol
- Arwain y Mentoriaid Lles ar y campysau dynodedig er mwyn bodloni gofynion anghenion penodol dysgwyr trwy gefnogaeth 1:1, gwaith grŵp neu adnoddau ar-lein perthnasol;
- Rheoli atgyfeiriadau lles a gyflwynir, eu neilltuo i'r tîm mentora yn unol â hynny, a
- chyfathrebu'n rheolaidd â'r Mentoriaid trwy reoli llwyth achosion yn rheolaidd ac yn effeithiol;
- Annog asesiadau cyntaf, ail a thrydydd fel rhan o adolygiadau llwyth achosion mentoriaid;
- Darparu cefnogaeth uniongyrchol i ddysgwyr yn ôl y gofyn mewn perthynas â'r swyddogaethau yn 2.1, 2.2 a 2.3;
- Sicrhau bod yr holl ddata a nodiadau achosion yn cael eu hychwanegu at y systemau TG priodol;
- Mynychu cyfarfodydd Arweinydd y Tîm Lles a lledaenu a rhannu gwybodaeth trwy linellau cyfathrebu perthnasol (h.y., creu cyfarfodydd tîm mentoriaid, Google Chat ac ati);
- Cyfrannu at waith y Coleg ar Ddiogelu fel person cyswllt a enwir ar gyfer Amddiffyn Plant ac Oedolion Agored i Niwed;
- Hybu buddion cyfrifoldebau'r tîm o ran darparu gweithgareddau cyfoethogi i ddysgwyr a chyfrannu atynt;
- Sicrhau bod gweithgareddau cyfoethogi dysgwyr yn cael eu darparu, gan gynnwys cefnogi a hybu wythnosau â themâu dan arweiniad mentoriaid mewn perthynas â digwyddiadau cenedlaethol a'r rhaglen diwtorial, cefnogi dysgwyr i greu clybiau, grwpiau a chymdeithasau cymwys, a goruchwylio o leiaf dwy awr yr wythnos o weithgarwch galw heibio ar y campws;
- Chwarae rôl weithredol yn y gwaith o hybu a rheoli ymddygiad cadarnhaol, gan gydweithio â meysydd cwricwlwm i ddarparu cefnogaeth i ddysgwyr a chymryd rhan mewn paneli ffurfiol yn ôl yr angen;
- Gweithio ar y cyd â staff yn y Gyfarwyddiaeth Profiad Dysgwyr i fynychu paneli Addasrwydd i Astudio a chyfrannu at gynlluniau gweithredu, gan gynnig cefnogaeth gyda lles.
- Gweithio ar y cyd â staff yn y Gyfarwyddiaeth Profiad Dysgwyr i sicrhau cysylltedd â systemau cefnogi eraill a chysondeb o ran dull ar draws yr holl gampysau;
- Datblygu a chynnal partneriaethau mewnol agos â staff addysgu a staff eraill er mwyn cefnogi gwaith y Gyfarwyddiaeth Profiad Dysgwyr.
- Gweithio mewn partneriaeth ag ystod o asiantaethau allanol i gefnogi'r swyddogaethau sy'n berthnasol i les dysgwyr;
- Cysylltu â phersonau cyswllt ysgolion unigol, fel rhan o'r broses bontio o fewn rhwydwaith 14-19 y sir;
- Arwain wrth greu gweithgareddau pontio Pasg a Haf ar gyfer y rheiny a nodwyd;
- Gweithredu fel cyswllt arweiniol dynodedig ar gyfer gwaith y Coleg i gefnogi Plant sy'n Derbyn Gofal ac i weithredu fel Arweinydd Gofal i gefnogi dysgwyr y Coleg sy'n Ofalwyr ac Oedolion Ifanc sy'n Ofalwyr;
- Cyfrannu tuag at gyflwyno a gweithredu Rhaglen Diwtorial y Coleg;
- Darparu data a gwybodaeth gywir reolaidd pan ofynnir gan y Pennaeth Cefnogi Dysgwyr a Lles;
- Gweithio fel rhan o Dîm Rheoli Profiad y Dysgwr i sicrhau bod gwaith y Gyfarwyddiaeth gyfan yn diwallu anghenion dysgwyr ac yn ymateb i flaenoriaethau allanol;
- Gweithredu fel єHybwr Cariad', yn hyrwyddo'r cysyniad Cariad ar y campysau dynodedig;
- Sicrhau bod esiampl dda yn cael ei gosod o ran lles staff, gan atgoffa'r tîm yn rheolaidd am bwysigrwydd hunanofal a'r holl reolau eraill a nodir yn y ddogfen єRheolau'r Tîm Lles';
- Cyflawni unrhyw ddyletswyddau eraill yn ôl cyfarwyddyd y Pennaeth/Prif Weithredwr, yn gymesur â gradd y swydd, yn y gweithle cychwynnol neu leoliadau eraill yn y Coleg.
Sgiliau Gwybodaeth ac ArbenigeddHanfodol:
- Wedi'i addysgu hyd at safon AU/Gradd neu profiad perthnasol
- Cymhwyster arbenigol mewn Arweinyddiaeth a rheolaeth (neu'n barod i'w ennill o fewn 3 blynedd)
- TGAU Saesneg a Mathemateg - o leiaf Gradd C neu Lefel O cyfwerth
- Profiad o weithio gyda Dysgwyr ag ystod o Anghenion o ran Cefnogaeth
- Profiad o weithio gyda dysgwyr ôl-16
- Profiad o reoli / goruchwylio staff
- Profiad o weithio mewn partneriaeth ag asiantaethau allanol
- Y gallu i berthnasu'n effeithiol ag ystod eang o ddysgwyr
- Sgiliau trefnu effeithiol
- Y gallu i arloesi a bod yn rhagweithiol wrth ddatblygu effeithiolrwydd cefnogaeth i ddysgwyr
- Y gallu i adeiladu perthynas broffesiynol gyda staff ar bob lefel
- Y gallu i gydweithio o fewn y coleg a gyda phartneriaid allanol
- Dealltwriaeth o'r ystod eang o swyddogaethau cefnogi dysgwyr
- Cyfathrebwr da â diplomyddiaeth a thact
- Y gallu i weithio'n gytûn gyda chydweithwyr
- Y gallu i weithio dan bwysau ac i derfynau amser tynn
- Sgiliau cyflwyno da
- Y gallu i ddefnyddio ystod o systemau a phecynnau TG
- Llefaredd Cymraeg (Gwrando/Siarad) - Lefel 2
- Llythrennedd Cymraeg (Ysgrifennu/Darllen) - Lefel 2
Mae croeso i bobl wneud cais am swyddi yn Gymraeg, ac ni fydd ceisiadau a wneir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.
Am ddisgrifiad swydd llawn, cliciwch ynghlwm.
Buddion
- Byddwch yn cael 28 diwrnod o wyliau, ynghyd â gwyliau banc a phum diwrnod cau sef cyfanswm o 41 diwrnod o wyliau y flwyddyn. Hefyd byddwch yn cael 4 diwrnod ychwanegol ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth.
- Cynllun pensiwn hynod o hael gyda 20% o gyfraniadau cyflogwr.
- Rhaglen dysgu a datblygu proffesiynol wobrwyedig.
- Cynllun seiclo i'r gwaith
- Maes parcio ceir am ddim ar y safle
- Disgowntiau mewn siopau adwerthu ac ar-lein