MANYLION
  • Lleoliad: Ysgol Syr Hugh Owen, Caernarfon,
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: £21,452 - £22,939 y flwyddyn
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 12 Awst, 2024 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Swyddog Gweinyddol Bl 10 a 11.- Ysgol Syr Hugh Owen, Caernarfon

Cyngor Gwynedd

Cyflog: £21,452 - £22,939 y flwyddyn

Manylion
Hysbyseb Swydd

ADDYSG - YSGOLION UWCHRADD

YSGOL SYR HUGH OWEN, CAERNARFON

(Cyfun 11 - 18; 930 o ddisgyblion)

Yn eisiau: 01 Medi 2024

Swyddog Gweinyddol Bl 10 a 11.

Mae Llywodraethwyr yr ysgol yn awyddus i apwyntio person brwdfrydig ac egnïol ar gyfer y swydd uchod sydd yn meddu ar y cymwysterau priodol a'r sgiliau addas.

Oriau gwaith: 37 awr yr wythnos

(40 wythnos waith mewn blwyddyn ysgol sef 38 wythnos tymor Ysgol, 5 diwrnod mewn hyfforddiant a 5 diwrnod yn ystod y gwyliau).

Graddfa Gyflog: Telir cyflog yn unol ag Amodau Gwaith ar gyfer Gweithwyr Llywodraeth Leol, Graddfa GS4 pwyntiau 7-11 (£21,452 - £22,939 y flwyddyn) yn ôl profiad a chymhwyster.

Mae'r gallu i gyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Mae'r ysgol yn gweithredu'n unol a'i Bolisi Iaith. Bydd angen i'r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy'n cael ei nodi yn y Manylion Person.

Gwahoddir unrhyw un sydd â diddordeb a/neu angen mwy o wybodaeth i drafod yn anffurfiol â'r Pennaeth, Mr Clive Thomas pennaeth@syrhughowen.ysgoliongwynedd.cymru

Gellir cyflwyno cais am y swydd yma ar-lein ar wefan Cyngor Gwynedd neu i'w cyflwyno Marian Williams, PA y Pennaeth, Ysgol Syr Hugh Owen, Ffordd Bethel, Caernarfon, Gwynedd, LL55 1HW. Rhif ffôn: 01286 682975; e-bost: marian.williams@syrhughowen.ysgoliongwynedd.cymru . Os dymunir dychwelyd y cais drwy'r post, dylid ei ddychwelyd i'r cyfeiriad uchod erbyn y dyddiad cau.

DYDDIAD CAU: 10:00 Y.B, DYDD LLUN, 12fed o AWST, 2024.

Bydd y Cyngor yn gofyn am gopi o'r dadleniad gan Wasanaeth Datgelu a Gwahardd gan yr ymgeisydd llwyddiannus cyn y gallent gychwyn yn y swydd yma.

Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda'r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog. (Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i'r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a'r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas).

Mae'r awdurdod hwn wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac mae'n disgwyl y bydd pob un o'i staff a'i wirfoddolwr yn rhannu'r ymrwymiad hwn.

(The above is an advertisement for a Year 10 and Year 11 Administrative Assistant at Ysgol Syr Hugh Owen, Caernarfon for which the ability to communicate through the medium of Welsh and English is essential).

This authority is committed to safeguarding and promoting the welfare of children and young people and expects all staff and volunteers to share this commitment.

The Council will require a Disclosure and Barring Service Certificate for the successful applicant before they can start at the school.

Os hoffech gefnogaeth i ymgeisio, mae Gwaith Gwynedd ar gael i roi cymorth i drigolion Gwynedd mynd i waith - am fwy o wybodaeth cliciwch yma .

Manylion Person

.

Swydd Ddisgrifiad

Pwrpas Cyffredinol y Swydd:

Dan arweiniad y Pennaeth Cynorthwyol, gweithio'n agos gyda staff, disgyblion a rhieni i sicrhau gofal, cefnogaeth a'r safonau uchaf o gyflawniad i holl ddisgyblion y cyfnod allweddol.

Cyfrifoldebau a Thasgau Allweddol:

Swyddfa CA4:
  • Sicrhau bod swyddfa Blwyddyn 10 ac 11 yn cael ei rhedeg yn effeithiol ac yn broffesiynol.
  • Sicrhau bod croeso i ddisgyblion sy'n ymweld a'r swyddfa Blwyddyn 8 a 9 a bod gofalaeth a chefnogaeth amlwg.
  • Ymdrechu i'r eithaf i ddiwallu anghenion unrhyw ddisgybl/riant/staff ac os na ellir gwneud hynny yn y fan a'r lle, ei gofnodi a'i anfon ymlaen i'r Pennaeth Blwyddyn.
  • Cefnogi swyddfeydd eraill yr ysgol yn ddibynnol ar y galw.
  • Sicrhau bod gwybodaeth cyflawn yn SIMS am holl ddisgyblion yn flwyddyn a'i fod yn gyfredol.
  • Gweinyddu holl drefniadau Noson Rhieni'r flwyddyn.
  • Bod yn bresennol yn ystod diwrnodau canlyniadau arholiadau allanol, er mwyn trefnu a dosbarthu
  • Cefnogi yn y gweinyddu o arholiadau mewnol ac allanol ar gyfer y flwyddyn.
  • Cadw ffeiliau disgyblion yn gyfredol a threfnus ac yn unol a'r canllawiau.

Cyfathrebu:
  • Rhannu gwybodaeth ar faterion y flwyddyn trwy hysbysfyrddau a sgriniau gwybodaeth.
  • Paratoi a dosbarthu llythyrau fel bo'r angen.
  • Paratoi Schoolcomms ar gyfer y flwyddyn fel bo'r angen.
  • Cadw calendr y flwyddyn.
  • Cadw tudalen y wefan ar gyfer y flwyddyn yn gyfredol.

Cwricwlwm:
  • Rhoi disgyblion mewn dosbarthiadau cofrestru a dosbarthiadau dysgu pynciol a chadw'r cofrestrau'n gyfredol.
  • Sicrhau bod holl asesiadau yn gyflawn yn SIMS erbyn y dyddiadau cau.
  • Cynorthwyo i baratoi asesiadau ac adroddiadau'r flwyddyn.
  • Cynorthwyo gyda'r trefniadau arholiadau mewnol ac allanol ar gyfer y flwyddyn.
  • Gweinyddu'r broses dewisiadau.

Gwaharddiadau / Cyfnodau Absenoldeb:
  • Casglu gwaith ar gyfer y disgyblion sydd yn absennol o'r ysgol am gyfnodau estynedig neu ar waharddiad tymor penodol, a'i anfon adref.
  • Cadw cofnod o'r gwaith a anfonir.
  • Ysgrifennu llythyrau gwaharddiad gan arweiniad y Pennaeth Cynorthwyol.
  • Cofnodi pob gwaharddiad yn SIMS.
  • Trefnu paneli llywodraethwyr fel bo'r angen gyda'r clerc.
  • Sicrhau bod y gwaith a osodwyd yn cael ei ddychwelyd i'r athrawon yn dilyn absenoldeb.

Cynhwysiad:
  • Cadw cofnodion o ddisgyblion sy'n derbyn cefnogaeth am amrywiaeth o resymau yn y Ganolfan Fugeiliol

Presenoldeb:
  • Sicrhau bod cofrestrau yn gyflawn erbyn diwedd y diwrnod.
  • Adrodd ar bresenoldeb i'r Pennaeth Blwyddyn / Arweinydd Cyswllt Blwyddyn yn wythnosol.
  • Paratoi llythyrau absenoldeb dan arweiniad Pennaeth Blwyddyn / Arweinydd Cyswllt Blwyddyn.
  • Gweinyddu trefn gwobrwyo presenoldeb y flwyddyn dan arweiniad y Pennaeth Blwyddyn / Arweinydd Cyswllt Blwyddyn.
  • Gwneud ymweliadau cartref achlysurol i gasglu disgyblion ar gyfer arholiadau/profion/asesiadau neu fel rhan o weithdrefnau gwella presenoldeb yr ysgol.

Addysg All-safle:
  • Trefnu trafnidiaeth ar gyfer y disgyblion sydd yn teithio'n all-safle.
  • Sicrhau bod gwybodaeth holl ddisgyblion sy'n dod i'r ysgol o ysgolion eraill yn gywir yn SIMS ac yn gyfredol.

Gweinyddol:
  • Cyflenwi unrhyw waith gweinyddol dan arweiniad y Pennaeth Blwyddyn / Arweinydd Cyswllt Blwyddyn.
  • Cadw dyddiadur apwyntiadau'r Pennaeth Blwyddyn / Arweinydd Cyswllt Blwyddyn.
  • Cysylltu gyda rhieni trwy e-bost, llythyr neu alwadau ffôn fel bo'r angen.

Meddygol:
  • Cymwys i roi Cymorth Cyntaf.
  • Ymateb i ddisgyblion/staff sydd wedi eu hanafu neu sy'n wael, a threfnu iddynt fynd adref neu drefnu i achosion brys fynd i'r ysbyty.
  • Cadw rhestrau cyflyrau meddygol disgyblion yn gyfredol a chodi ymwybyddiaeth y staff.
  • Cofnodi'r digwyddiadau damweiniol yn yr ysgol a'u hanfon i'r Awdurdod pan mae angen.

Arall:
  • Gweithio'n adeiladol, rhagweithiol ac yn hyblyg fel rhan o dîm, gan ddeall swyddogaethau a chyfrifoldebau ysgol.
  • Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau eraill, fel y bydd eu hangen yn rhesymol gan y Pennaeth ac sydd yn gyson gyda'r lefel gyffredinol o gyfrifoldeb o fewn y swydd.

Amgylchiadau Arbennig:

e.e. angen i weithio oriau anghymdeithasol, trefniadau gwaith arbennig, a.y.y.b.
  • Bydd angen i ddeilydd y swydd fod yn bresennol mewn nosweithiau rhieni a nosweithiau agored yn unol â'r gofyn. Bydd unrhyw oriau ychwanegol a weithir dros 37 awr yn cael eu talu ar amserlen.


  • Ceisio ar lein - Sut?
  • Rhestr Swyddi