MANYLION
  • Lleoliad: Coleg Cambria,
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: £30,620 - £47,331
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 12 Hydref, 2024 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Darlithydd Peirianneg Uwch CC/2633

Coleg Cambria

Cyflog: £30,620 - £47,331

Disgrifiad Swydd

Coleg Cambria: Cyflwyniad

Yng Ngholeg Cambria, ein nod yw bod yn sefydliad addysg eithriadol. Ar ôl cael arolwg canmoliaethus gan Estyn yn ddiweddar, rydym yn teimlo bod hyn yn ddechrau da.

Rydym yn rhoi croeso cynnes i holl fyfyrwyr a staff i wneud Coleg Cambria yn lle rydych chi eisiau bod yn rhan ohono. Er mwyn sicrhau bod ein myfyrwyr yn cael y profiad a'r canlyniadau gorau y gallant eu cael, rydym yn sicrhau fod y bobl rydym yn eu cyflogi yn hapus. Rydym yn meithrin amgylchedd gwaith cadarnhaol, gweithlu sy'n ehangu ac yn gwella'n gyson, ac yn cynnig y cyfle i chi herio'ch hun. Yn ogystal â hynny, mae gennym ystod eang o fudd-daliadau i sicrhau fod ein gweithwyr yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, gan gynnwys gwyliau blynyddol hael, pecyn pensiwn gwych, ac aelodaeth â disgownt i'n campfeydd, ein salonau a'n bwytai hyfforddi proffesiynol.

Mae ein 5 safle, sydd wedi'u lleoli mewn ardal odidog yng Ngogledd Cymru, yn ehangu ac yn datblygu'n gyson. Gyda pherthnasoedd cryf gyda nifer o gwmnïau yn yr ardal, rydym yn helpu rhoi'r dechrau gorau i'n myfyrwyr i'w gyrfaoedd ac yn helpu'r economi leol i ffynnu. Mae gan Gymru ddiwylliant cadarn a balch, ac rydym yn parhau i ddatblygu'r gwerthoedd pwysig hynny trwy ymrwymo i hyrwyddo'r Gymraeg. Rydym yn falch iawn o'r hyn rydym wedi'i adeiladu yma ac rydym bellach yn chwilio am rywun i wella ein gweithlu sydd eisoes yn eithriadol.

Crynodeb o'r Swydd

Rhagori ar ddisgwyliadau drwy addysg, arloesedd ac ysbrydoliaeth...

Teitl y Swydd: Darlithydd Peirianneg Uwch

Lleoliad: Glannau Dyfrdwy

Math o Gontract: Parhaol/Rhan-amser (22.2 awr yr wythnos)

Cyflog: £30,620 - £47,331

Ydych chi'n beiriannydd profiadol yn eich maes gydag enw da am ansawdd a rhagoriaeth?

Beth am ddefnyddio eich profiad i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf! Dechreuwch eich taith i fyd addysg heddiw.

Os ydych chi'n meddwl bod gennych chi'r sgiliau peirianneg ond nid y profiad addysgu, yna gadewch i ni eich cefnogi chi i ennill y cymwysterau addysg angenrheidiol wrth rannu eich gwydodaeth a'ch profiad.

Ar hyn o bryd mae gennym ni swydd wag ar gyfer darlithydd Peirianneg Uwch i weithio yn ein cyfleuster peirianneg 'o'r radd flaenaf' lle gall ein myfyrwyr ddysgu yn yr ystafell ddosbarth ac amgylcheddau gweithdy. Gan ddangos egni a brwdfrydedd yn yr amgylchedd dysgu, byddwch chi'n addysgu yn ôl amserlen, paratoi deunyddiau dysgu, marcio gwaith myfyrwyr, cysylltu â chyrff dyfarnu ac yn goruchwylio arholiadau yn ôl yr angen. Hefyd byddwch chi'n darparu arweiniad addysgol, cefnogaeth a chwnsela i'r holl fyfyrwyr. Byddwch chi'n chwaraewr tîm ymroddedig sy'n gallu meithrin perthnasoedd gwaith effeithiol a byddwch chi'n cysylltu â thiwtoriaid o feysydd busnes eraill o ran adnoddau, datblygu'r cwricwlwm, adroddiadau myfyrwyr a materion cysylltiedig eraill, a chwblhau a chynhyrchu dogfennaeth fel cofrestri, cynlluniau gwaith, cofnodion gwaith, adolygiadau cyrsiau, dogfennaeth dadansoddi cyrsiau ac adroddiadau myfyrwyr.

Rydyn ni'n chwilio am unigolyn sydd â chymhwyster Lefel 5 o leiaf mewn Peirianneg Fecanyddol a Thrydanol gyda gwybodaeth a sgiliau i addysgu ystod o unedau BTEC craidd ac unedau peirianneg arbenigol o lefel 3 i lefel 5, gan gynnwys; egwyddorion mecanyddol/trydanol, mathemateg peirianneg, gwyddoniaeth peirianneg a dadansoddi. Byddwch chi'n gallu rhannu eich sgiliau a'ch gwybodaeth am y diwydiant i grwpiau eang o brentisiaid a dysgwyr AB ac AU llawn amser. Byddwch chi'n awyddus i ymgymryd â datblygiad proffesiynol parhaus gan gynnwys dysgu sgiliau newydd ym maes peirianneg i gefnogi datblygiad addysgu a dysgu ar draws yr adran, yn ogystal â pharhau i fod yn ymwybodol o'r datblygiadau diweddaraf mewn diwydiant.

Gallai meysydd pwnc ar lefelau 4 i 5 gynnwys, ond nid ydynt yn gyfyngedig i:
  • Cymhwyso Hafaliadau Gwahaniaethol a Thrawsffurfiadau Integredig i ddatrys problemau peirianneg gan ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau dadansoddol a chyfrifiannol; Calculus Fector
  • CAD/CAM (Profiad Solidworks / Inventor yn ddymunol)
  • Rheoli prosesau ac awtomeiddio
  • Systemau a gyriannau pŵer 3 cham

Gofynion Hanfodol
  • Cymhwyster Lefel 5 o leiaf mewn maes pwnc arbenigol perthnasol
  • Yn gallu adnabod, dehongli a chymhwyso gwybodaeth benodol i ymarfer
  • Dangos dealltwriaeth o ddatblygiadau cyfredol ym maes arbenigol eu hunain a ffyrdd o gael y wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau o'r fath
  • Yn cydnabod ac yn gwneud myfyrwyr yn ymwybodol o'u cryfderau a'u hanghenion datblygu
  • Gallu datblygu a defnyddio ystod o dechnegau addysgu a dysgu a pharatoi deunyddiau addysgu ysgrifenedig a gweledol effeithiol
  • Creadigol, arloesol a dychmygus gyda'r gallu i addasu i amgylchiadau newidiol a syniadau newydd

Os hoffech chi drafod unrhyw agweddau ar y swydd cyn gwneud cais, neu gael trafodaeth anffurfiol, mae croeso i chi anfon neges e-bost at recruitment@cambria.ac.uk.

Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon

Mae Coleg Cambria wedi ymrwymo i hyrwyddo proffil y Gymraeg.

Mae Coleg Cambria yn gyflogwr 'Hyderus o ran Anableddau'.

Mae hyrwyddo Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yn rhan hanfodol o'n gwaith, ac mae'r coleg wedi ymrwymo i gael grŵp staff amrywiol fel rhan o hynny.

Mae diogelwch plant, pobl ifanc ac oedolion y nodwyd eu bod yn 'agored i niwed' yn hollbwysig ac mae Coleg Cambria wedi ymrwymo'n llwyr i ddiogelu a hyrwyddo lles yr unigolion hyn ac i weithredu gweithdrefnau a threfniadau'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn drwyadl. Byddwn ni'n gofyn am wiriad DBS gan yr ymgeisydd llwyddiannus a fydd yn cael cynnig y swydd. Yn dibynnu ar y swydd y byddwch chi'n gwneud cais amdani ac os ydych chi'n llwyddiannus, efallai bydd gofyn i chi gofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg hefyd.

Fel arfer caiff swyddi eu hysbysebu gydag ystod gyflog. Os cynigir rôl i chi yn y coleg, bydd profiad perthnasol yn cael ei ystyried i benderfynu ar eich cyflog cychwynnol.

Sylwch fod Coleg Cambria yn cadw'r hawl i gau'r rhestr ymgeiswyr yn gynnar ar gyfer unrhyw swydd pe byddwn yn cael nifer fawr o geisiadau. Byddwn ni'n argymell eich bod chi'n cwblhau eich cais cyn gynted â phosibl os hoffech chi gael eich ystyried ar gyfer y swydd hon

Buddion

Cynllun(iau) pensiwn ardderchog

Hawl gwyliau blynyddol hael

Darpariaeth feithrin ar ein safle yng Nglannau Dyfrdwy

Gostyngiadau ar ystod o gyrsiau gyda'r nos y coleg

Mynediad i ystod eang o gyrsiau e-ddysgu a datblygiad proffesiynol

Disgownt ar aelodaeth ystafell ffitrwydd

Cyfleusterau chwaraeon a ffitrwydd ardderchog

Parcio am ddim ar bob safle

Cynllun Beicio

Cyfraddau gostyngol ar gyfer trin gwallt a thriniaethau harddwch

Cyfraddau gostyngol yn ein bwytai