MANYLION
- Lleoliad: Coleg Cambria,
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: £30,620 - £47,331
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 09 Awst, 2024 12:00 y.b
This job application date has now expired.
Cyflog: £30,620 - £47,331
Disgrifiad Swydd a Manyleb Yr UnigolynColeg Cambria: Cyflwyniad
Yng Ngholeg Cambria, ein nod yw bod yn sefydliad addysg eithriadol. Ar ôl cael arolwg canmoliaethus gan Estyn yn ddiweddar, rydym yn teimlo bod hyn yn ddechrau da.
Rydym yn rhoi croeso cynnes i holl fyfyrwyr a staff i wneud Coleg Cambria yn lle rydych chi eisiau bod yn rhan ohono. Er mwyn sicrhau bod ein myfyrwyr yn cael y profiad a'r canlyniadau gorau y gallant eu cael, rydym yn sicrhau fod y bobl rydym yn eu cyflogi yn hapus. Rydym yn meithrin amgylchedd gwaith cadarnhaol, gweithlu sy'n ehangu ac yn gwella'n gyson, ac yn cynnig y cyfle i chi herio'ch hun. Yn ogystal â hynny, mae gennym ystod eang o fudd-daliadau i sicrhau fod ein gweithwyr yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, gan gynnwys gwyliau blynyddol hael, pecyn pensiwn gwych, ac aelodaeth â disgownt i'n campfeydd, ein salonau a'n bwytai hyfforddi proffesiynol.
Mae ein 5 safle, sydd wedi'u lleoli mewn ardal odidog yng Ngogledd Cymru, yn ehangu ac yn datblygu'n gyson. Gyda pherthnasoedd cryf gyda nifer o gwmnïau yn yr ardal, rydym yn helpu rhoi'r dechrau gorau i'n myfyrwyr i'w gyrfaoedd ac yn helpu'r economi leol i ffynnu. Mae gan Gymru ddiwylliant cadarn a balch, ac rydym yn parhau i ddatblygu'r gwerthoedd pwysig hynny trwy ymrwymo i hyrwyddo'r Gymraeg. Rydym yn falch iawn o'r hyn rydym wedi'i adeiladu yma ac rydym bellach yn chwilio am rywun i wella ein gweithlu sydd eisoes yn eithriadol.
Crynodeb o'r Swydd
Rhagori ar ddisgwyliadau drwy addysg, arloesedd ac ysbrydoliaeth...
Teitl y Swydd: Darlithydd Gwaith Saer
Lleoliad: Glannau Dyfrdwy
Math o Gontract: Parhaol: Llawn Amser
Cyflog: £ 30,620 - £47,331
Ar hyn o bryd mae gennym swydd wag ar gyfer darlithydd Gwaith Saer ar ein safle Glannau Dyfrdwy.
Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus lawer o brofiad ymarferol ym maes gwaith saer, bydd yn frwdfrydig, yn wydn, ac yn llawn cymhelliant, ac yn dangos angerdd am addysg a gwneud gwahaniaeth i'n dysgwyr.
Fel darlithydd byddwch chi'n cyflawni addysgu yn ôl amserlen, paratoi deunyddiau dysgu, marcio gwaith myfyrwyr, cysylltu â chyrff dyfarnu a goruchwylio arholiadau. Byddwch chi'n darparu arweiniad addysgol, cymorth a chwnsela i bob myfyriwr a gweithredu fel tiwtor personol yn ôl y galw.
Gofynion Hanfodol
- Cymhwyster addysgu Lefel 5 o leiaf (e.e. Tystysgrif Addysg/TAR) neu fod yn gweithio tuag at gymhwyster addysgu Lefel 5
- Addysg at gymhwyster Lefel 3 o leiaf
- Dangos eich bod yn deall y datblygiadau cyfredol yn eich maes arbenigol eich hun a sut y byddwch chi'n sicrhau bod gennych y wybodaeth ddiweddaraf am y datblygiadau hyn
- Gwybodaeth am yr ystod eang o anghenion dysgu a sut i ddiwallu'r anghenion hyn mewn amgylchedd dysgu
- Gallu dangos ymrwymiad at bwysigrwydd Diogelwch ac ymwybyddiaeth o hynny
- Gallu datblygu a defnyddio ystod o dechnegau addysgu a dysgu
- Adnabod cryfderau ac anghenion datblygu myfyrwyr a'u gwneud yn ymwybodol ohonynt
- Gallu ymdrin yn gyflym ac yn effeithiol ag ymddygiad amhriodol yn yr ystafell ddosbarth
- Gallu paratoi deunyddiau addysgu ysgrifenedig a gweledol effeithiol
- Ymrwymiad i ddiwylliant y coleg sy'n rhoi pobl wrth wraidd popeth a wnawn
Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon
Mae Coleg Cambria wedi ymrwymo i hyrwyddo proffil y Gymraeg.
Mae hyrwyddo'r Gymraeg yn rhan hanfodol o'n gwaith. Mae croeso i ymgeiswyr gyflwyno cais yn Gymraeg. Nid ydym yn trin cais a gyflwynwyd yn Gymraeg yn llai ffafriol na chais a chyflwynwyd yn Saesneg.
Bydd ffurflenni cais, deunydd esboniadol, gwybodaeth am y broses gyfweld a dulliau asesu a disgrifiadau swydd i gyd ar gael yn Gymraeg.
Mae Coleg Cambria yn gyflogwr 'Hyderus o ran Anableddau'.
Mae hyrwyddo Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yn rhan hanfodol o'n gwaith, ac mae'r coleg wedi ymrwymo i gael grwp staff amrywiol fel rhan o hynny.
Mae diogelwch plant, pobl ifanc ac oedolion y nodwyd eu bod yn 'agored i niwed' yn hollbwysig ac mae Coleg Cambria wedi ymrwymo'n llwyr i ddiogelu a hyrwyddo lles yr unigolion hyn ac i weithredu gweithdrefnau a threfniadau'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn drwyadl. Byddwn yn gofyn am wiriad DBS gan yr ymgeisydd llwyddiannus a fydd yn cael cynnig y swydd. Byddai gofyn i chi hefyd gofrestru gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg fel Athro Addysg Bellach.
Fel arfer mae swyddi'n cael eu hysbysebu gydag ystod cyflog. Os cewch gynnig swydd yn y coleg, bydd profiad perthnasol yn cael ei ystyried er mwyn pennu eich cyflog cychwynnol.
Sylwer fod Coleg Cambria yn cadw'r hawl i gau'r rhestr ymgeiswyr yn gynnar ar gyfer unrhyw swydd pe byddwn yn derbyn nifer fawr o geisiadau. Byddwn yn argymell eich bod yn cwblhau eich cais cyn gynted â phosibl os hoffech gael eich ystyried ar gyfer y swydd hon.
Buddion
Cynllun(iau) pensiwn ardderchog
Hawl gwyliau blynyddol hael
Darpariaeth feithrin ar ein safle yng Nglannau Dyfrdwy
Gostyngiadau ar ystod o gyrsiau gyda'r nos y coleg
Mynediad i ystod eang o gyrsiau e-ddysgu a datblygiad proffesiynol
Disgownt ar aelodaeth ystafell ffitrwydd
Cyfleusterau chwaraeon a ffitrwydd ardderchog
Parcio am ddim ar bob safle
Cynllun Beicio
Cyfraddau gostyngol ar gyfer trin gwallt a thriniaethau harddwch
Cyfraddau gostyngol yn ein bwytai
Absenoldeb mamolaeth, mabwysiadu a thadolaeth estynedig