MANYLION
  • Lleoliad: Vale of Glamorgan, Vale of Glamorgan, CF63 4RU
  • Testun: Pennaeth
  • Oriau: Amser llawn
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Salary Range: £64,620 - £74,847
  • Iaith: Saesneg
  • Dyddiad Cau: 01 Chwefror, 2022 11:59 y.b

This job application date has now expired.

PENNAETH - Ysgol Gynradd Holton

PENNAETH - Ysgol Gynradd Holton

Cyngor Bro Morgannwg
Amdanom ni




Rydym am benodi Pennaeth galluog llawn gweledigaeth i arwain y gymuned o ddysgwyr yn Ysgol Gynradd Holton.
•Ydych chi'n gallu trosi Cwricwlwm Cymru yn addysgu a dysgu cymhellol yn ein hysgol?
•A allech adeiladu ar ein datblygiadau newydd ar gyfer dysgu yn y 21ain Ganrif?
•A ydych yn credu yng ngrym ysgolion i gefnogi eu cymunedau?

Os mai chi yw’r person yma, byddem wrth ein bodd yn clywed eich syniadau ar gyfer Ysgol Gynradd Holltwn.


Am y Rôl




Cyfeirnod y swydd (i'w ddefnyddio ar y ffurflen gais): HPS-HT

Manylion am gyflog: Graddfa arweinyddiaeth 18-24 (bydd y Llywodraethwyr yn ystyried hyd at L21-27)

Diwrnodau / Oriau Gwaith: Telerau ac Amodau Athrawon Ysgol

Parhaol/Dros Dro: Parhaol

Disgrifiad:

Mae Ysgol Gynradd Holton wedi dod drwy gyfnod o newid diwylliannol ac arweinyddiaeth sylweddolgyda chefnogaeth Pennaeth Gweithredol. Wrth i'n hysgol symud ymlaen, mae'r Corff Llywodraethu newydd yn ceisio penodi unigolyn galluog a brwdfrydig sydd â'r syniadau, yr ysgogiad a'r egni i adeiladu ar ethos ein hysgol sy'n canolbwyntio ar y gymuned. Mae ein disgwyliadau'n uchel ond mae'r cyfle i weithio mewn ysgol a gefnogir yn dda gyda staff addysgu rhagorol a phlant gwych yn unigryw ac yn un na ddylid ei golli.

Mae Ysgol Gynradd Holton yn nhref Y Barri ym Mro Morgannwg. Mae gennym 320 o blant ar y gofrestr gan gynnwys ein disgyblion meithrin, gyda 32% o'n disgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim. Mae ein hysgol yn amgylchedd hapus, ffyniannus a phrysur sy'n meithrin dysgu go iawn, drwy brofiad. Rydym yn blaenoriaethu llesiant er mwyn sicrhau bod pob plentyn yn cael addysg bwrpasol, ddiddorol sy'n cyfateb i'w hanghenion. Rydym yn ymfalchïo ein bod yn gweithio mewn partneriaeth â'n cymuned leol.


Dyddiad cau: Dydd Mawrth 1 Chwefror 2022 am hanner dydd

Dyddiadau cyfweld: Dydd Mercher 2 a Dydd Iau 3 Mawrth 2022


Amdanat ti




Oes angen gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd?: Manwl

Angen cofrestru gyda’r CGA: Mae'n ofyniad statudol bod yn rhaid i ymgeiswyr ar gyfer y swyddi hyn gael eu cofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg cyn y gallant ddechrau gweithio mewn ysgol. Os nad ydych eisoes wedi cofrestru, mae gwybodaeth bellach, gan gynnwys sut i gofrestru, ar gael yn www.ewc.wales


Sut i wneud cais




Am wybodaeth bellach, cysylltwch â: John Sparks, Pennaeth Cefnogi Llywodraethwyr, JSparks@valeofglamorgan.gov.uk

Dychwelyd ceisiadau e-bost at: JSparks@valeofglamorgan.gov.uk