MANYLION
  • Lleoliad: Vale of Glamorgan, Vale of Glamorgan, CF63 4RU
  • Testun: Cynorthwy-ydd Addysgu
  • Oriau: Rhan amser
  • Cytundeb: Cyfnod penodol
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Salary Range: £20,493 - £22,183
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 01 Chwefror, 2022 11:59 y.p

This job application date has now expired.

Cynorthwy-ydd Addysgu Uned Drochi Iaith Ysgolion Bro Morgannwg (L3) - Ysgol Gymraeg Gwaun Y Nant

Cynorthwy-ydd Addysgu Uned Drochi Iaith Ysgolion Bro Morgannwg (L3) - Ysgol Gymraeg Gwaun Y Nant

Cyngor Bro Morgannwg
Am y Rôl
Cyfeirnod y swydd (i'w ddefnyddio ar y ffurflen gais): YGBM-LSA3

Manylion am gyflog: Gradd 5, SCP 8-12, £20,493 - £22,183 pro rata

Diwrnodau / Oriau Gwaith: Llawn Amser, Dydd Llun- Dydd Gwener, I gychwyn mor fuan a phosib

Parhaol/Dros Dro: Dros Dro, Secondiad dau dymor yn y man cychwyn o ganlyniad i ariannu grant Llywodraeth Cymru, Secondiad hyd at Awst 2022 gyda’r bwriad i fod yn barhaol o Fedi 2022

Disgrifiad:
Dymuna Penaethiaid Ysgolion Cymraeg Bro Morgannwg benodi unigolyn cymwys a phrofiadol i gynorthwyo arweinydd Uned Drochi Iaith Cymraeg Bro Morgannwg. Dyma gyfle arbennig a chyffrous i fod yn rhan o dŵf pellach Addysg Gymraeg ym Mro Morgannwg
Mae’n hanfodol bod yr ymgeisydd llwydddiannus yn ymarferydd iaith Cymraeg ardderchog.
Bydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus gydweithio’n agos gyda’r arweinydd er mwyn darparu ar gyfer disgyblion sy’n hwyr i Addysg Gymraeg, yn ogystal â disgyblion sydd angen cefnogaeth ychwanegol o ganlyniad i COVID

Amdanat ti
Oes angen gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd?: Manwl

Angen cofrestru gyda’r CGA: Mae'n ofyniad statudol bod yn rhaid i ymgeiswyr ar gyfer y swyddi hyn gael eu cofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg cyn y gallant ddechrau gweithio mewn ysgol. Os nad ydych eisoes wedi cofrestru, mae gwybodaeth bellach, gan gynnwys sut i gofrestru, ar gael yn www.ewc.wales


Sut i wneud cais
Am wybodaeth bellach, cysylltwch â: Rhydian LLoyd, Pennaeth Ysgol Gymraeg Gwaun y Nant, 01446421723, rlloyd@valeofglamorgan.gov.uk

Dychwelyd ceisiadau e-bost at: rlloyd@valeofglamorgan.gov.uk