MANYLION
  • Lleoliad: SWANSEA, Swansea, SA2 9EB
  • Testun: Gweinyddwr
  • Oriau: Amser llawn
  • Cytundeb: Cyfnod penodol
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Salary Range: £19,090 - £20,809
  • Iaith: Saesneg

This job application date has now expired.

Cynorthwyydd Gweinyddol Gwasanaethau Dysgwyr ac Ansawdd

Cynorthwyydd Gweinyddol Gwasanaethau Dysgwyr ac Ansawdd

Coleg Gwyr Abertawe
Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn chwilio am weinyddydd brwdfrydig i gefnogi’r Tîm Gwasanaethau Dysgwyr ac Ansawdd i sicrhau bod pob prentis DSW yn ymgymryd ag asesiad WEST (Sgiliau Hanfodol Cymru) cyn dechrau gyda’r coleg. Bydd deiliad y swydd hefyd yn darparu gwasanaeth cynhwysfawr ac effeithlon sy’n diwallu anghenion cadw cofnodion a gweinyddol yr Adran Ddysgu Seiliedig ar Waith.

Mae profiad o ddechrau a chynnal a chadw systemau gweinyddu manwl yn hanfodol, ynghyd â gwybodaeth am Microsoft Office 365.

Bydd gennych gymhwyster Lefel 3 neu’r cyfwerth mewn Gweinyddu Busnes, sgiliau trefnu gwych, gallu i flaenoriaethu llwyth gwaith yn effeithiol, llygad dda am fanylder a’r gallu i gynhyrchu gwaith cywir. Bydd hefyd gennych lefel 2 (Gradd A-C TGAU) neu’r cyfwerth mewn Mathemateg a Saesneg.

Byddwch yn meddu ar sgiliau trefnu gwych ac yn medru gweithio’n effeithiol dan bwysau i fodloni terfynau amser. Byddwch hefyd yn gallu cyfathrebu’n effeithiol ar bob lefel a byddwch yn mwynhau gweithio fel rhan o dîm mewn amgylchedd swyddfa prysur.