MANYLION
  • Lleoliad: SWANSEA, Swansea, SA2 9EB
  • Testun: Darparwr Hyfforddiant
  • Oriau: Amser llawn
  • Cytundeb: Cyfnod penodol
  • Dyddiad Dechrau: 01 February, 2022
  • Dyddiad Gorffen: 31 August, 2022
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Salary Range: £17,607 - £19,166
  • Iaith: Dwyieithog

This job application date has now expired.

Hyfforddwr Swyddi (Chwilio Prosiect)

Hyfforddwr Swyddi (Chwilio Prosiect)

Coleg Gwyr Abertawe
Mae cyfle cyffrous wedi codi i ddarparu hyfforddiant a chymorth i grwp o interniaid ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) mewn gweithleoedd busnes.

Gan ddefnyddio technegau hyfforddi swyddi, byddwch yn addysgu tasgau/sgiliau hanfodol ac yn cefnogi datblygiad pobl ifanc tuag at annibyniaeth a chyflogaeth. Gan weithio gyda’r interniaid a rhanddeiliaid perthnasol, byddwch yn nodi a cheisio cymorth a chyflogaeth sy’n berthnasol i ddiddordebau a sgiliau pob unigolyn.

Byddwch yn gyfrifol am sefydlu ac asesu cynnydd interniaid, darparu adborth yn rheolaidd i interniaid ac aelodau o’r tîm, cydlynu gwaith hyfforddi swyddi a chwblhau gwerthusiadau ac adroddiadau angenrheidiol.
JOB REQUIREMENTS
Bydd gennych gymhwyster Lefel 3 a 5 TGAU gan gynnwys Mathemateg a Saesneg (gradd C neu uwch) neu’r cyfwerth, sgiliau trefnu a datrys problemau gwych ynghyd â gallu i ddylanwadu’n bositif ar ystod eang o interniaid, gan eu hysbrydoli.

Bydd angen i chi feddu ar brofiad o asesu cychwynnol a darparu sgiliau cyflogaeth, a bydd gennych ddealltwriaeth o’r rhwystrau i hyfforddiant a chyflogaeth mewn perthynas â myfyrwyr ag ADY.

Yn ogystal, bydd gennych sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu gwych i gysylltu’n fewnol ac allanol yn effeithiol â rhanddeiliaid.

Mae hyblygrwydd a’r gallu i deithio i wahanol safleoedd gwaith yn ôl y gofyn yn hanfodol.

Ni cheir ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.

Mae Coleg Gwyr Abertawe yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles pobl ifanc ac yn disgwyl i’r holl staff rhannu’r ymrwymiad hwn. Bydd penodiadau eu gwneud ar sail gwiriad DBS manylach a bydd gofyn i chi ymaelodi â Chyngor Gweithlu Addysg Cymru.