Os yr ydych am gymryd y cam cyntaf neu symud ymlaen i'r cam nesaf yn eich gyrfa addysg, Addysgwyr Cymru yw'r lle i chi gael mynediad i wybodaeth, hyfforddiant a chyfleoedd gyrfaol i'ch tywys yno.
Ble bynnag yr ydych ar eich taith, rydym ni yma i'ch helpu i fod yr addysgwr gorau y gallwch fod ac i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o ddysgwyr yng Nghymru.
Nid yw gweithio ym myd addysg bob amser yn hawdd, ond mae bob amser yn werth chweil. Gwyliwch yma i weld pam:
Crëwch gyfrif neu cofrestrwch gan ddefnyddio'ch cyfrif FyCGA presennol.
Crëwch eich proffil. Gadewch i gyflogwyr wybod am yr hyn rydych chi’n frwdfrydig amdano, eich uchelgeisiau, a beth sy'n eich cymell.
Crëwch neu lanlwythwch eich CV – gwnewch i'ch hun sefyll allan a dangoswch pam mai chi yw'r person gorau ar gyfer y swydd.
Chwiliwch am swyddi yn eich sector neu heriwch eich hun i roi cynnig ar rywbeth newydd.
Cyflwynwch eich proffil a'ch dogfennau ategol – mae ein system ymgeisio hawdd ei defnyddio yn tynnu'r straen allan o ymgeisio am eich swydd ddelfrydol.
Mae addysg yn daith gydol oes – porwch cyfleoedd dysgu proffesiynol ac adnoddau wrth i chi aros i glywed nôl!
Crëwch gyfrif gyda ni.
Crëwch eich proffil yn barod i hysbysebu'ch cyfleoedd hyfforddi a datblygu.
Cyrraeddwch dros 80,000+ o weithwyr proffesiynol sydd wedi'u cofrestru â CGA a'r rheini sy'n ystyried ymuno â'r sector addysg yng Nghymru.
Byddwch yn cael eich darganfod gan bobl sy'n defnyddio platfform Addysgwyr Cymru i chwilio am hyfforddiant a chyfleoedd dysgu proffesiynol gwerthfawr.
Ehangwch eich cyrhaeddiad a gwella ansawdd y gweithwyr proffesiynol sy'n cofrestru yn eich rhaglenni.
Diweddarwch Addysgwyr Cymru yn rheolaidd wrth i'ch cynigion newid a datblygu dros amser.
Crëwch gyfrif neu cofrestrwch gan ddefnyddio'ch cyfrif FyCGA presennol.
Crëwch eich proffil yn barod i hysbysebu'ch swyddi gwag ac i hyrwyddo'ch sefydliad fel cyflogwr o ddewis.
Cyrraeddwch dros 80,000+ o weithwyr proffesiynol sydd wedi'u cofrestru â CGA a'r rheini sy'n ystyried ymuno â'r sector addysg yng Nghymru.
Caniatewch i ymgeiswyr gwneud cais trwy blatfform Addysgwyr Cymru neu'n uniongyrchol trwy'ch sianeli presennol.
Cymharwch a lluniwch rhestr fer o geisiadau i gyd mewn un lle trwy blatfform Addysgwyr Cymru.
Ehangwch eich tîm o addysgwyr rhagorol.
Mae Addysgwyr yng Nghymru yn gweithio ar draws ystod eang o sefydliadau:
Gyda'n gilydd, fe adeiladwn weithlu addysg amrywiaethol sy'n cynrychioli Cymru gyfan yn well. Ydych chi'n credu gallwch chi ein helpu i wireddu hyn?
I gyflawni safonau uwch o lythrennedd a rhifedd
I fod yn fwy cymwys yn ddigidol ac yn ddwyieithog
I dyfu’n ddinasyddion hyderus, galluog a gofalgar yng Nghymru